Ym mis Tachwedd Cheryl Beer, yr artist sain amgylcheddol sy’n byw yn Llanelli, oedd yr artist unigol cyntaf o Gymru i ddangos ei gwaith ym Mhalas San Steffan yn Nhŷ'r Cyffredin. Ymddangosodd ei gwaith, Cân y Coed, felly ynghanol y byd gwleidyddol.
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, llwyddodd Cheryl i gael Prif Gomisiwn gan Unlimited,. Felly treuliodd flwyddyn yn gweithio fel artist sain amgylcheddol preswyl yng nghoedwigoedd glaw Cymru, dan arweiniad Coed Cadw. Trwy newid technoleg cymorth clyw ac offer biofeddygol eraill, roedd wedi darganfod sut i recordio’n weledol weithgarwch dan y rhisgl.
Yn ôl yn ei stiwdio, cofnododd y rhain a chyfansoddodd gerddoriaeth dan arweiniad natur ei hun. Yn ôl Cheryl:
"Dechreuodd hyn oll fel ffordd o wella fy ngholled clyw sydyn. Ond mae wedi tyfu'n organig yn ymgyrch ryngwladol i rymuso llais sawl ecoleg fregus a chydnabod ein bod ni hefyd yn fregus ynddynt."
Yn ei blog, mae hanes personol ei harddangosfa yn Nhŷ'r Cyffredin a’r broses o greu Cân y Coed. Mae hefyd yn diolch i’r tîm o sefydliadau am eu cefnogaeth.