Bydd CHAPTER yn disgleirio dros ŵyl y banc mis Awst o ddydd Iau 22 i ddydd Sul 25, wrth iddynt gynnal Gŵyl Fwrlésg Cymru - yn cynnwys pedair sioe ac wyth gweithdy yn ogystal â chyfarfodydd a stondinau.
Bydd Chapter yn fwrlwm o sêr bwrlésg, cantorion byw, breninesau drag a dawnswyr o bob rhan o’r byd yn ogystal â thalent leol o’r cwmni lleol, Clwb Cabaret Caerdydd.

Bydd perfformiadau’n cynnwys syrcas, comedi, dawns a cherddoriaeth fyw, yn ogystal ag actau Bwrlésg hudolus fel dawnsio ffan – gyda phob un o’r pedair sioe yn brolio thema wahanol gan gynnwys cystadleuaeth, dathliad o berfformwyr Cymreig, clwb yfed (speakeasy) a noson gala yn cynnwys rhai o artistiaid mwyaf cyffrous y DU.
 

Mae’r ŵyl yn cael ei chynhyrchu gan Glwb Cabaret Caerdydd, y mae’r ddinas wedi bod yn gartref iddo ers 15 mlynedd.
Mae'r clwb yn cael ei redeg gan Foo Foo Labelle, sydd wedi cynhyrchu cannoedd o sioeau sydd wedi gwerthu allan.
Mae Foo Foo hefyd yn cynnal dosbarthiadau Bwrlésg ar draws y ddinas i bobl o bob rhyw, oedran (dros 18) a mathau o gorff ddysgu dawnsio.

Mae Clwb Cabaret Caerdydd yn arbennig. Rydym yn gymuned o bobl sy'n dod at ein gilydd i ddawnsio, gwisgo i fyny a pherfformio ac rydym wedi gwneud ffrindiau oes. Mae’n anghyffredin dod o hyd i le mor gadarnhaol a diogel i fynegi’ch hun yn rhydd”
Dywedodd Flossie Smalls, Rheolwr Llwyfan y Clwb Cabaret.

Mae’r ŵyl wedi’i chastio o bob rhan o Gymru a’r byd i ddarparu’r gorau oll o’r ffurf gelfyddydol ddisglair hon – ac fe’i cefnogir gan berfformwyr lleol o grŵp Clwb Cabaret Caerdydd. Gwahoddir mynychwyr yr Ŵyl hefyd i roi cynnig arni gyda nifer o weithdai sy’n cynnig y cyfle i ddysgu Bwrlésg, samba Brasilaidd, Rhedfa Hollol Americanaidd, neu hyd yn oed ymuno â dosbarth bywluniadu gydag un o’r perfformwyr yn gosod eu hunain mewn ystum ar gyfer yr artistiaid.

Mae Gŵyl Fwrlésg Cymru yn berffaith ar gyfer pobl sydd erioed wedi gweld Bwrlésg yn ogystal â chefnogwyr brwd, gyda ffefrynnau lleol ac artistiaid newydd i Gaerdydd sy'n ymweld â'r ddinas ar gyfer yr ŵyl.

“Mae sioeau Bwrlésg yn wych i bobl sydd eisiau noson allan wirioneddol wych - bob pum munud fe gewch chi rywbeth cyffrous, ysgytwol neu hollol wirion.
Rydyn ni wedi rhoi'r cast at ei gilydd i ddangos ehangder y dalent sydd gan sioeau cabaret, o berfformwyr lleol i enwau mawr. Rwy’n falch iawn o allu cynnal yr ŵyl yn Chapter, ac rwy’n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn neidio wysg eu traed i’r byd disglair hwn gyda ni.”

Meddai'r cynhyrchydd Foo Foo La Belle

“Rydym wrth ein bodd yn gallu rhoi Cymru ar y map disglair gyda’r Ŵyl Fwrlésg - rwyf wedi mynychu a pherfformio mewn gwyliau ar draws y DU a gwn fod gan Gymru fel cenedl lais cryf yn y sîn - mae'n wych bod yn gallu gwahodd artistiaid mor fawreddog i’n llwyfannau”
Meddai'r Cyd-gynhyrchydd Oola Pearl.

Mae sioeau a gweithdai Gŵyl Burlesque Cymru ar werth nawr.