Bydd cerddoriaeth o'r ddrama deledu hanesyddol enwog Wolf Hall yn cael ei pherfformio mewn cyngerdd arbennig mewn gŵyl nodedig yng ngogledd Cymru.
Fe'i cyfansoddwyd ar gyfer addasiad y BBC o nofel Hilary Mantel gan Debbie Wiseman OBE, un o gyfansoddwyr enwocaf y byd, y bydd ei gwaith yn cael ei arddangos yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ar nos Iau, Medi 18.
Mae ei cherddoriaeth i raglenni teledu eraill yn cynnwys Father Brown a Tom's Midnight Garden a ffilmiau fel Wilde, y ffilm fywgraffyddol am Oscar Wilde, gyda Stephen Fry yn serennu.
Mae Debbie hefyd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer sawl achlysur Brenhinol a bydd ei darn i ddathlu pen-blwydd y diweddar Frenhines Elizabeth yn 90 oed yn cael ei berfformio yn y cyngerdd yn ogystal ag Elizabeth Remembered, darn a gomisiynwyd gan y BBC.
Bydd cerddorfa NEW Sinfonia yn chwarae cerddoriaeth Wolf Hall a darnau eraill, a bydd Debbie ei hun yn siarad am ei bywyd a'i gwaith gyda chyflwynydd Classic FM Zeb Soanes, sgwrs a gaiff ei darlledu ar Classic FM.
Mae'n bosib cynnal yr Ŵyl dioch i gefnogaeth arbennig gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, Celfyddydau a Busnes Cymru a Tŷ Cerdd.
Nid yw Debbie, sy’n dod o Lundain, wedi ymweld â Llanelwy o'r blaen a dywedodd ei bod yn teimlo’n "gyffrous" ac yn edrych ymlaen at y cyngerdd.
Wrth ddisgrifio ei gwaith gyda chyfarwyddwr Wolf Hall, Peter Kosminsky, dywedodd Debbie mai’r bwriad oedd ceisio osgoi ysgrifennu sgôr tebyg i Greensleeves.
"Roeddwn i'n ymwneud yn gynnar iawn yn Wolf Hall gyda Peter ac roedd rhai o'r themâu cerddorol eisoes wedi'u cyfansoddi cyn dechrau ffilmio.”
"Doedd dim rhaid i mi astudio llawer o gerddoriaeth Tuduraidd ac er fy mod i’n defnyddio ychydig o offerynnau’r cyfnod – telyn, recorder, mandolin a cor anglais – roedd y gerddoriaeth i fod i adlewyrchu arddull uniongyrchol a chyfoes rhyddiaith Hilary Mantel.”
"Nid yw'n ddogfen hanesyddol ond yn bortread dramatig iawn o'r nofel," meddai.
"Cafodd y darn sy'n dathlu pen-blwydd y diweddar Frenhines Elizabeth yn 90 oed ei gyfansoddi a'i recordio gan Gerddorfa Gyngerdd y BBC mewn cyfrinachedd mawr bum mlynedd cyn marwolaeth y Frenhines ac fe'i rhyddhawyd wedyn fel sengl gyda'r holl elw yn mynd i Ymddiriedolaeth y Gymanwlad y Frenhines.”
"Roedd yn fraint cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer darllediadau teledu byw y BBC oedd yn cwmpasu angladd y Frenhines ac roedd clywed y gwaith yn cael ei chwarae yn ystod y darllediadau yn rhywbeth na fyddaf fyth yn ei anghofio. Roedd yn anrhydedd fawr i mi gael y gwahoddiad," meddai.
Dywedodd Robert Guy, Cyd-Gyfarwyddwr Artistig NEW Sinfonia, a fydd yn arwain cerddorfa NEW Sinfonia wrth berfformio pob darn ond un pan fydd Debbie ei hun yn cymryd y baton.
Dywedodd: "Rydw i bob amser yn teimlo ychydig yn nerfus pan fydd cyfansoddwr yn bresennol yn un o'n cyngherddau oherwydd rwy'n teimlo ychydig o gyfrifoldeb ychwanegol, ond mae Debbie Wiseman wedi ysgrifennu cymaint o ddarnau cofiadwy ar gyfer teledu a ffilm mae ei chael hi yn y gynulleidfa yn fonws ychwanegol.”
"Rydym wedi cael ein cefnogi a’n hannog gan drefnwyr Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd ac mae’r digwyddiad wedi dod yn gartref i NEW Sinfonia.”
"Bydd hwn yn gyngerdd cyffrous iawn. Dyma'r math o gyngerdd y byddech chi'n disgwyl ei gael yn un o'r dinasoedd mawr ac mae'n wych bod trefnwyr yr ŵyl wedi gallu dod â digwyddiad fel hyn i Lanelwy. Bydd yn rhoi cyfle i ni gyflwyno NEW Sinfonia i gynulleidfa lawer ehangach ledled y byd."
Dywedodd y cyfansoddwr Paul Mealor, sydd yn ei ail flwyddyn fel Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl: "Mae pwysigrwydd cerddoriaeth a'r celfyddydau wrth gefnogi a hyrwyddo iechyd meddwl da yn wybyddus ac mae wedi'i ddogfennu'n dda gan wyddonwyr a seicolegwyr ledled y byd.”
"Thema'r ŵyl eleni yw Canfyddiadau a thrwy gyfres o gyngherddau, gweithdai, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau, rydym yn ceisio archwilio agweddau cadarnhaol cerddoriaeth ar gyfer ein lles meddyliol.”
Yn serennu yng nghyngerdd agoriadol yr ŵyl ar ddydd Iau, Medi 11, bydd y tenor o Malta, Joseph Calleja, ac ef ym marn Paul Mealor yw "tenor telynegol gorau'r byd".
Ymhlith y prif berfformwyr yn yr ŵyl eleni mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y grŵp corawl rhyngwladol Apollo5 a'r Black Dyke Band enwog.
Uchafbwynt arall eleni fydd ail gystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine a lansiwyd y llynedd.
Bydd y cyngerdd olaf yn cynnwys Cymdeithas Gorawl Gogledd Cymru o dan eu harweinydd Trystan Lewis.
Hefyd yn dychwelyd bydd digwyddiadau ymylol ‘ffrinj’ yr ŵyl a gyflwynwyd gan Paul Mealor fel elfen newydd y llynedd i greu cysylltiadau agosach â'r gymuned leol yn Llanelwy.
Bydd y digwyddiadau ymylol yn cynnwys noson cabaret a chaneuon Americanaidd, comedi stand-yp, a noson o farddoniaeth dan arweiniad un o feirdd mwyaf Cymru, Mererid Hopwood, yr Archdderwydd presennol.
Mae tocynnau a rhagor o fanylion am raglen yr Ŵyl ar gael ar-lein yn https://nwimf.com. Mae tocynnau hefyd ar gael o Cathedral Frames, Llanelwy - 07471 318723 (Dydd Mercher – Dydd Gwener, 10 - 4) a Theatr Clwyd dros y ffôn - 01352 344101 (Dydd Llun – Dydd Sul, 10 - 8).