O gampweithiau cerddorol bytholwyrdd i gyfansoddiadau arloesol gan gyfansoddwyr cyfoes; o synau'r oes jazz euraid i asio cerddoriaeth y byd a thraciau ffilmiau Hollywood poblogaidd: bydd tymor 23/24 Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn pontio’r canrifoedd!

Yn ystod y tymor nesaf bydd BBC NOW unwaith eto’n cydweithio â’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft. Mae wedi ennill gwobrau am ei waith ac mae ei arweinyddiaeth artistig yn dod ag egni unigryw a hudolus i bob perfformiad. Bydd Ryan yn lansio’r tymor ar 5 Hydref yn Neuadd Dewi Sant gyda 3rd Symphony epig Mahler.

Ar ben hynny, bydd y gerddorfa a’r corws yn perfformio gydag ystod o arweinyddion gwadd nodedig, gan gynnwys Jaime Martín, Nil Venditti, Lionel Bringuier, Sofi Jeannin, Tadaaki Otaka a Martyn Brabbins. Bydd unawdwyr gwadd tymor 23/24 yn cynnwys y Fonesig Evelyn Glennie, Ben Beilman, Geneva Lewis, Alisa Weilerstein, Christianne Stotijn, Zee Zee, Inmo Yang, Ben Goldscheider, Fiona Monbet, Iyad Sughayer a Jess Gillam.

Bydd BBC NOW yn ehangu ar bartneriaeth newydd gydag Abel Selaocoe, yr Artist Cyswllt a benodwyd yn ddiweddar, mewn cyfres o gyngherddau a digwyddiadau cymunedol ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys cyngerdd gyda Nduduzo Makathini yn DEPOT, lleoliad digwyddiadau bywiog yng Nghaerdydd. Bydd BBC NOW hefyd yn croesawu’r arweinydd Giancarlo Guerrero yn ôl gyda Concerto for Orchestra Bartók ochr yn ochr ag Abel Selaocoe yn perfformio ei goncerto i’r soddgrwth Four Spirits.

Yn ystod y tymor bydd cyfres newydd o gyngherddau i nodi bywyd a chyfraniadau cerddorol rhyfeddol y gyfansoddwraig o Gymru, Grace Williams, i ddathlu ei hetifeddiaeth ysbrydoledig ac i arddangos hyd a lled ei dawn gerddorol. Bydd ‘BBC NOW – NOW!’ hefyd yn ychwanegiad newydd at y repertoire y tymor hwn, gan ganolbwyntio ar y gerddoriaeth orau sy’n cael ei hysgrifennu heddiw.

A hithau’n 30 o flynyddoedd bellach ers rhyddhau Jurassic Park, un o'r cyfresi ffilm mwyaf erioed, bydd BBC NOW yn perfformio sgôr John Williams yn fyw i’r ffilm yng Nghaerdydd ac yn Abertawe ym mis Rhagfyr. Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, ymunwch â BBC NOW ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y DU o goncerto Syr Karl Jenkins i'r sacsoffon. Bydd y sacsoffonydd o fri, Jess Gillam yn perfformio’r darn hwn ynghyd â thrysorau cyffrous Cymreig eraill. Byddwn yn dathlu’r Nadolig â chyngerdd carolau traddodiadol gyda’r Corws Cenedlaethol Cymreig a chôr mawr o blant.

Mae BBC NOW wedi ymrwymo i wneud cerddoriaeth yn hygyrch ac yn ddifyr i bawb, a dros y tymor nesaf bydd ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd i ffwrdd o’r neuadd gyngerdd.

Dywedodd Lisa Tregale, Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC:

“Y tu hwnt i’r llwyfan, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno mentrau newydd a chyffrous ar gyfer pobl ifanc a chymunedau yng Nghymru. Drwy gynnwys digidol arloesol, gan gynnwys cyngherddau sy’n cael eu ffrydio’n fyw o’n cartref yn Neuadd Hoddinott y BBC, ein nod yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo eu bod yn rhan o’n stori gerddorol.”

Dywedodd Matthew Wood, Pennaeth Cynhyrchu Artistig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC:

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi ein tymor 2023/24, lle rydw i’n edrych ymlaen yn arbennig at ein cyngerdd agoriadol gyda 3ydd symffoni epig Mahler, cyfres newydd o’r enw Grace – sy’n dathlu cerddoriaeth y gyfansoddwraig wych o Gymru Grace Williams, ein cyngerdd Chwarae Picasso lle rydyn ni’n dathlu cyfraniad arwyddocaol Picasso i fale a chyngherddau gyda’r chwaraewr soddgrwth gwych o Dde Affrica – Abel Selaocoe – wrth iddo ddod yn Artist Cyswllt newydd gyda ni.  Mae’n anrhydedd ac yn bleser di-ben-draw cael gweithio ochr yn ochr â cherddorion mor dalentog a staff mor ymroddedig i ddod â’r arlwy cerddorol ehangaf bosib i’n cynulleidfaoedd.”