O Landudno i Fae Caerdydd, mae’r A470 yn troelli ac yn troi am bron i ddau gan milltir gan ymestyn o’r Gogledd i’r De, gan ddarparu cyswllt â gorffennol, presennol a dyfodol Cymru.

Mae cymaint o ddiwylliant, hanes ac iaith y wlad yn arwain yn ôl at yr asgwrn cefn du hwn ond ni fu erioed yn anoddach diffinio beth yn union y mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes yng Nghymru.

Fel un o brif sefydliadau’r genedl sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth a thrwy gymorth cyllid a ddarparwyd gan gynllun Create Cyngor Celfyddydau Cymru, ym mis Mawrth 2022 aeth Cerdd Gymunedol Cymru ati i gychwyn ar y ffordd eiconig hwn i archwilio cysylltedd pobl â Chymru, ei thirwedd amrywiol, i ddatgelu syniadau am 'Gymreictod' trwy rym cerddoriaeth a sain.

Gan weithio’n agos gyda deg grŵp o ardaloedd ar hyd yr A470, mae Prosiect Ffordd Sain wedi crynhoi golygfeydd a synau’r briffordd sonig ryfeddol hon i’r map rhyngweithiol hwn. Gan gynnwys sain, fideo, ffotograffiaeth, a'r gair llafar/ysgrifenedig, ei nod yw anfon ymwelwyr ar daith hanesyddol, dopograffig a chymdeithasegol i galon Cymru gan ddefnyddio cerddoriaeth fel y cerbyd. O'r brifddinas i drefi hanesyddol y cymoedd, Pontypridd a Merthyr Tudful, trwy bentrefi amaethyddol gwledig y Canolbarth hyd at gopaon dramatig Gogledd Cymru ac yn ôl i dref glan môr Fictoraidd Llandudno.

“Bu Ffordd Sain, ein prosiect cyfranogol yn ymgysylltu â 10 cymuned wahanol sy’n byw ar hyd yr A470, i ddathlu amrywiaeth, dwyieithrwydd a demograffeg gwahanol y bobl sy’n byw ar hyd y llwybr enwog hwn drwy Gymru,” eglura Cyfarwyddwr CMW, Hannah Jenkins: “Dros y flwyddyn ddiwethaf , rydym wedi ymgysylltu â dros 300 o unigolion ac 17 o grwpiau gwahanol, gan ddechrau yng Nghaerdydd ac yn gorffen yn Llandudno. Dathlodd pob grŵp ei ardal unigryw ei hun ac adrodd stori eu cymuned eu hunain trwy gyfansoddi caneuon, perfformio, animeiddio a gwneud fideos. Mae wedi bod yn wych ac rydym yn falch o gyhoeddi map Sain A470, yn dangos yr holl waith a grëwyd. Hoffem ddiolch i gynllun ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru, yr holl bartneriaid, tiwtoriaid a chyfranogwyr a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl."