Mae’r consortiwm sy’n darparu’r cynllun yn cael ei arwain gan Brifysgol UWE Bryste, gyda’r prif ganolbwynt yn stiwdio Pervasive Media ym Mryste, a Watershed, Bryste yw'r Cynhyrchydd Gweithredol.

Bydd partneriaeth agos rhwng Phrifysgol Bryste a sefydliadau diwylliannol yn Belfast a Derry (Canolfan Nerve), Caerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru) a Glasgow (Cryptic), yn ogystal â Crossover Labs, Unlimited, Menter Amrywiaeth XR a Rhwydwaith Immersive Tech Innovate UK, bydd Cewlfyddydau Ymdrochol yn cynhyrchu rhaglen gyfoethog o gyfleoedd cynhwysol a hygyrch, gan chwalu’r rhwystrau sy'n wynebu artistiaid o bob cefndir allu ymgysylltu ag offer trochi.

Bydd artistiaid yn cael y cyfle i gael hyfforddiant, mentora, cyfleusterau arbenigol a chronfeydd hanfodol, gyda chyfanswm o £3.6 miliwn mewn cyllid grant ar gael rhwng 2024 a 2027 i roi syniadau ar waith a datblygu prosiectau presennol ymhellach.

Mae’r rownd gyllido gyntaf bellach wedi agor ar gyfer ceisiadau ac mae’n gwahodd artistiaid i wneud cais i un o dair ffrwd ariannu, pob un wedi’i chynllunio i gefnogi gwahanol ddatblygiadau creadigol:

  • Archwilio (£5,000): Delfrydol ar gyfer unigolion, grwpiau bach, neu sefydliadau (10 o weithwyr neu lai) sydd ag ychydig iawn, neu ddim profiad o gwbl mewn celfyddydau ymdrochol. Bydd y grant hwn yn galluogi artistiaid i archwilio technolegau ymdrochol, datblygu syniadau, profi gwaith, neu gwrdd â chydweithwyr posibl.

     

  • Arbrofi(£20,000): Ar gyfer unigolion neu ficro-endidau (10 neu lai o weithwyr) i greu gweithiau celf ymdrochol arbrofol neu brototeipiau y gellir eu profi gyda chynulleidfaoedd bach.

     

  • Ehangu(£50,000): Ar gyfer unigolion, micro-endidau, neu sefydliadau bach (50 neu lai o weithwyr) sydd am ddatblygu prosiectau presennol ar gyfer profi neu gyflwyno.

Bydd y rhaglen hyfforddi ac arddangos yn cael ei harwain gan Crossover Labs, gyda mewnbwn strategol gan Unlimited, Rhwydwaith Technoleg Immersive Innovate UK a Menter Amrywiaeth XR a Bwrdd Cynghori rhyngwladol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i https://immersivearts.uk/