Yn ystod y misoedd diwethaf mae Celfyddydau Span, sefydliad elusennol celfyddydol yn Sir Benfro, wedi bod ar y blaen mewn prosiect o’r enw ‘Straeon Cariad at Natur’. Mae'r fenter arloesol hon wedi golygu gwahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol i sianelu eu creadigrwydd tuag at ddathlu a chefnogi’r amgylchedd.
Yn ystod cyfnod cychwynnol y prosiect bu artistiaid penodedig yn crefftio amrywiaeth gyfareddol o waith oedd yn arddangos y cysylltiad dwfn rhwng celf a'r amgylchedd. Roedd y creadigaethau hyn yn amrywio o ffilm fer ingol ar adeg llanw mawr ym Mae Dwyrain Angle i faneri tecstil sy'n cynorthwyo ieir bach yr haf wrth iddynt lywio mannau agored. Roeddent hefyd yn cynnwys campwaith o gelf tywod cymunedol trawiadol a gosodiad digidol ymdrochol, wedi'i ysbrydoli gan seindalpiau a gyflwynwyd gan y cyhoedd, yn darlunio eu hoff fannau naturiol. Datblygwyd y prosiectau hyn mewn lleoliadau amrywiol ar draws Sir Benfro, gan ddangos ymrwymiad yr artistiaid i gelf amgylcheddol ysbrydoledig, arloesol, uchelgeisiol, ac ymgysylltiedig.
Beth ddaeth i'r amlwg o ganlyniad i’r daith artistig hon oedd neges bwerus: gall yr amgylchedd fod yn ffynhonnell o gyfoethogi, ysbrydoliaeth ac adnewyddu mewn gwahanol ffyrdd.
Emily Laurens yw'r artist diweddaraf i gael ei chomisiynu gan Gelfyddydau Span. Fel rhan o'i chyfraniad i'r prosiect bydd yr artist amlddisgyblaethol yn creu ffilm ffug-ddogfen sy'n archwilio cysyniad cyffrous –CADW OED Â NATUR!
Mae Emily Laurens yn artist amlddisgyblaethol sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol, yn gyd-gyfarwyddwr Feral Theatre, cyd-sylfaenydd Lost Species Day, Swyddog Chwarae i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn hyfforddi fel Seicotherapydd Celf. Mae ei gwaith yn ymwneud ag argyfwng ecolegol a chyfiawnder cymdeithasol ac yn defnyddio trosiad i ddeall y byd yn well a sut y gellir defnyddio dychymyg radical i ddarlunio dyfodol amgen.
Estynnwyd galwad agored i unigolion fyddai â diddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect ac ymddangos yn y ffilm. Ar ôl dewis yn ofalus, mae tri chyfranogydd wedi eu recriwtio i gydweithio gydag Emily, gan argoeli’n dda am brosiect cyffrous ac anghonfensiynol.
Mae’r ffilm ffug-ddogfen yn dilyn hynt a helynt tri pherson o Sir Benfro’n dilyn yr ap ‘Date Nature’. Mae’r ap yn gwahodd pobl i gysylltu â, cadw oed â, a -gobeithio- mynd i berthynas ystyrlon â bodau eraill yn y byd naturiol - coeden, planhigyn taglys, carreg neu wlyptir mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw.
Mae'r ffilm hon wedi'i hysbrydoli gan y mudiad ecorywioldeb a syniadau o ecoleg cwiar. Mae'n archwilio syniadau am y naturiol ac annaturiol a'r cyfle sydd gennym i aros gyda'r amseroedd cythryblus yr ydym yn byw ynddynt, cofleidio cymhlethdod a mynd ynghlwm ym myd natur.
Cynhelir dangosiad cyntaf y ffilm yng Nghelfyddydau Walden Arts, Aberteifi ar 25 Tachwedd. Mae tocynnau am ddim, ond mae archebu'n hanfodol. Yn ogystal â dangos y ffilm am y tro cyntaf, bydd sgyrsiau a gweithgareddau ar thema cadw oed â natur. Gwahoddir deiliaid tocynnau i wisgo i greu argraff!
Mae Celfyddydau Span yn parhau i bontio'r bwlch rhwng ymwybyddiaeth amgylcheddol a mynegiant artistig, gan brofi bod harddwch natur yn ffynhonnell ysbrydoliaeth ddiddiwedd i feddyliau creadigol.