Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Celfyddydau SPAN wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Elusennau Cymru 2024 yn y categori Defnyddio'r Gymraeg! Mae'r gwobrau clodfawr hyn yn dathlu cyfraniadau rhagorol elusennau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ledled Cymru, ac mae'n anrhydedd i ni gael ein cydnabod am ein hymdrechion i hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o’n gwaith.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC/WCVA), yn tynnu sylw at sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau. O fentrau llawr gwlad i ymgyrchoedd ar raddfa fawr, mae'r gwobrau'n cydnabod effaith ryfeddol y rhai sy'n gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru.

Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi'r Gymraeg, ac rydym yn ddiolchgar i'n tîm a'n cymuned am helpu i'w chadw'n rhan ganolog o'n digwyddiadau, ein gwaith allanol a’n hymdrechion artistig.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar Dachwedd 25ain 2024, ac rydym yn edrych ymlaen at ddathlu gyda'n cyd-gystadleuwyr yn y rownd derfynol. I ddilyn ein taith a chyffro'r digwyddiad, ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WelshCharityAwards a #GwobrauElusennauCymru.