Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bodoli i rymuso'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru. Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl 2024, rydym ni’n tynnu sylw at yr argyfwng ym maes iechyd meddwl i arddegwyr yng Nghymru, a'r rôl arwyddocaol y gallai cyfranogiad yn y celfyddydau ei chwarae wrth fynd i'r afael â hyn.
Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yng Nghymru
Nododd 24% o bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru lefelau “uchel iawn” o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn cyfnod clo COVID-19, yn ôl adroddiad diweddaraf y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd merched bron ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn o fod wedi adrodd am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl.
Yn yr un modd, cyhoeddodd Mind Cymru ymchwil yn dangos bod 34% o bobl ifanc 16-24 mlwydd oed wedi profi iechyd meddwl oedd yn dirywio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd niferoedd uchel eu bod yn teimlo dan fwy o straen (42%), yn fwy pryderus (41%), yn fwy isel (36%) ac yn dioddef cwsg gwaeth (39%), ac roedd tua thraean hefyd yn nodi eu bod yn datblygu teimladau o unigrwydd (30%).
Effeithiau Rhyfeddol Cyfranogiad y Celfyddydau
Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan y Grŵp Ymchwil Bioymddygiadol Cymdeithasol yn UCL yn dangos bod pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rheolaidd yn y celfyddydau mewn llai o berygl o brofi iselder yn ystod glasoed. Mae ganddynt hunan-barch uwch hefyd, sydd yn ei dro yn effeithio ar ddatblygiad a lles gydol oes.
Ar gyfer y cannoedd o bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn ensembles a phrosiectau ieuenctid CCIC, rydym ni wedi gweld yn uniongyrchol y rôl bwysig mae'r celfyddydau yn ei chwarae yn eu hiechyd a'u hapusrwydd:
Dywedodd Aelod o Gwrs Preswyl CCIC: “Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i'm hiechyd meddwl dros y cyfnod clo... Roedd dychwelyd i gwrs preswyl yn bersonol yn 2022 yn brofiad anhygoel, a wnaeth yn bendant fy helpu i adennill llawer o'r hyder yr oeddwn wedi'i golli dros y cyfnod clo.”
Rydym ni wedi clywed straeon newyddion yr un mor gadarnhaol gan ein mudiadau partner niferus ledled Cymru, gan gynnwys Gwasanaethau Cerdd Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Urdd Gobaith Cymru, Elusen Aloud, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ballet Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Theatr Clwyd ac eraill. Mae gan Gymru ecoleg gyfoethog ac amrywiol o gyfleoedd celfyddydol i bobl ifanc, o oedran cynradd, hyd at addysg uwch, a thu hwnt. Fe wnaeth cyflwyno'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerdd yn 2022 helpu i gynyddu cydweithio ar draws yr holl sefydliadau cerddoriaeth cenedlaethol, ac rydym yn datblygu strategaethau tebyg ar draws y sectorau theatr a dawns.
Buddsoddiad Cyhoeddus yn y Celfyddydau
Yn ei chyllideb ar gyfer 2024-25, gwnaeth Llywodraeth Cymru doriadau ar draws sawl sector er mwyn mynd i'r afael â diffyg sylweddol yn ei chyllideb gwerth £23bn. Mae cymorth i ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth wedi gostwng £16m (gan gynnwys toriad o 10.5% i Gyngor Celfyddydau Cymru) wrth i'r llywodraeth ail-flaenoriaethu gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd. Bydd hyn yn gostwng £1.9m arall wrth i gyllidebau awdurdodau lleol gael eu heffeithio.
O ganlyniad, bydd darpariaeth celfyddydol ar gyfer pobl ifanc yn anochel yn cael ei lleihau. Mae'r holl dystiolaeth uchod yn awgrymu y byddwn ni’n gweld effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc ledled Cymru, gydag effeithiau pwysig i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol. Gallai'r costau ychwanegol canlyniadol hynny fod yn fwy na'r £18m sydd wedi'i dynnu oddi wrth ddarpariaeth y celfyddydau.
Dywedodd Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol CCIC: “Mae'r gyllideb ar gyfer addysg a chyfranogiad celfyddydol yng Nghymru yn sicrhau enillion enfawr ar y buddsoddiad hwnnw. Mae angen brys i'r llywodraeth ddeall y byddem ni, drwy fuddsoddi mwy mewn darpariaeth celfyddydol ar gyfer pobl ifanc, yn lleihau'r straen ar y GIG, gan hefyd helpu i adeiladu Cymru hyderus, greadigol a hael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Dywedodd David Jackson OBE, Cadeirydd CCIC: “Mae effaith gadarnhaol cyfranogiad yn y celfyddydau ar iechyd meddwl yn amlwg ers tro, ac ni fu erioed fwy o angen yr effaith hon nag yn awr. Mae'n hollbwysig y dylai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru barhau i ddatblygu ac ehangu ei gweithgareddau er budd pobl ifanc Cymru.”