Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch o gyhoeddi grant sylweddol o £30,000 gan Sefydliad Garfield Weston. Bydd y cyllid hanfodol yma’n helpu i ddiogelu dyfodol pum ensemble cenedlaethol ieuenctid Cymru a galluogi CCIC i ehangu ar eu gwaith yn cyrraedd pobl ifanc ar draws y wlad.
“Mae’r gefnogaeth graidd yma gan Sefydliad Garfield Weston yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn ystod amser allweddol,” meddai Evan Dawson, Prif Weithredwr CCIC. “Bydd y cyllid yn cryfhau nid yn unig ein gallu i ddarparu ar gyfer cannoedd o gerddorion, actorion a pherfformwyr ifanc talentog ar draws pum ensemble cenedlaethol, ond hefyd yn ein galluogi ni i barhau ein rhaglen strategol yn adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn darpariaeth greadigol yng Nghymru.”
Mae rhaglen strategol CCIC yn cynnwys cyflwyno gweithdai a phrosiectau creadigol a dargedwyd mewn cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig at y celfyddydau. Gwaith sydd, yn sgil pwysau ariannol digynsail ar sector celfyddydau Cymru, yn dod yn fwyfwy hanfodol.
Daw’r grant gan un o gyllidwyr elusennol mwyaf uchel eu parch yn y DU. Wedi’i sefydlu gan deulu ym 1958, mae Sefydliad Garfield Weston yn creu grantiau sy’n cefnogi ystod eang o elusennau ledled y DU. Hyd yn hyn mae’r Sefydliad wedi rhoi dros £1.5 biliwn, gyda dros hanner o’r swm hwnnw wedi’i roi yn y ddegawd ddiwethaf yn unig. Yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, fe roddwyd dros £100 miliwn i gwta llai na 1,800 o elusennau ar draws y DU.
“Nid buddsoddiad yn ein sefydliad ni yn unig yw’r grant hael hwn – mae’n fuddsoddiad yn nyfodol creadigol pobl ifanc ym mhob sir yng Nghymru,” ychwanega Evan Dawson. “Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Garfield Weston am gydsefyll â ni.”
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd cynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer artistiaid ifanc ar draws y wlad, gan sicrhau nad yw daearyddiaeth a chefndir yn rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau.
Os hoffech chi gefnogi gwaith hanfodol CCIC yn y celfyddydau yng Nghymru gyda chyfraniad ariannol, cysylltwch â tracymarshallgrant@nyaw.org.uk os gwelwch yn dda.