Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) a The Associated Board of the Royal Schools of Music (ABRSM) yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi addysg gerddorol yng Nghymru.
Mae'r ddau sefydliad yn rhannu ymrwymiad i hyrwyddo addysg a phrofiadau cerddoriaeth hygyrch, difyr a chynhwysol o ansawdd uchel i bobl ifanc ledled Cymru.
Cyhoeddwyd y bartneriaeth mewn cyngerdd gan Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn y Neuadd Fawr, Abertawe ddydd Sul 28 Gorffennaf.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar y tri ffrwd canlynol:
1. Llwybrau Talent
Mae CCIC yn cynnal clyweliadau ledled Cymru bob blwyddyn - ac yna'n cefnogi'r cerddorion ifanc mwyaf talentog i ffurfio ensembles, gan dderbyn hyfforddiant o'r radd flaenaf a pherfformio gyda'i gilydd.
Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, mae CCIC yn gweithio gyda gwasanaethau cerddoriaeth, sefydliadau ac ysgolion ledled Cymru i ddadansoddi llwybrau dilyniant ar draws gwahanol offerynnau (a lleisiau) a genres cerddoriaeth.
Gan fanteisio ar y gwaith uchod, bydd CCIC ac ABRSM yn nodi 'mannau oer' yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ac yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys "Côr Skills" i roi profiad i gantorion o ganu corawl, a rhaglen "Strings Attached" i hybu sgiliau chwaraewyr ffidil, fiola, bas a sielo ifanc.
2. Llais Ieuenctid
Bydd ABRSM a CCIC yn cefnogi rhaglenni cynrychiolaeth ieuenctid y naill a’r llall, gan gynnwys cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc ar gyfer hyfforddiant, dylanwadu ar bolisi a phrofiad gwaith. Yn ddiweddar, mae CCIC wedi penodi tri ymddiriedolwr ifanc i'w bwrdd ac wedi creu 'Criw Creu Newid' ifanc i ddylanwadu ar weithgareddau CCIC. Bydd yn rhannu'r profiadau hyn gydag ABRSM, gyda'r bwriad o ddatblygu modelau newydd o arfer gorau ar gyfer sector y celfyddydau gyda'i gilydd.
3. Data
Bydd ABRSM a CCIC yn datblygu ffyrdd newydd o gasglu data am addysg gerddorol a chyfranogiad ledled Cymru, ac yn cymathu eu data presennol, i nodi pa offerynnau sy'n cael eu dysgu i safon uchel, pa rai sy'n llai poblogaidd, a pha rannau o'r wlad sydd fwyaf angen cymorth.
Dywedodd James Welburn, Dirprwy Bennaeth Ymgysylltu ABRSM: "Rydym ni’n falch iawn o fod yn cydweithio â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar yr hyn yr ydym ni’n rhagweld fydd yn bartneriaeth ddiddorol ac egnïol i gefnogi cerddorion ifanc ledled Cymru. Rydym ni’n arbennig o gyffrous am ein rhaglenni llais ieuenctid, gan helpu i wreiddio lleisiau pobl ifanc o fewn ein sefydliadau a'r sector ehangach, a chadw cerddorion ifanc wrth wraidd popeth a wnawn."
Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “ABRSM yw un o sefydliadau addysg gerddorol mwyaf blaenllaw Y byd ac rydym ni’n gyffrous i gychwyn ar y bartneriaeth newydd hon. Gyda'n gilydd, rydym ni’n deall y rôl emosiynol mae cerddoriaeth yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc, gan gydnabod a dathlu'r ystod amrywiol o gefndiroedd mae pob unigolyn yn eu cyflwyno, wrth fanteisio ar ein rhwydwaith cerddorol o gyfansoddwyr, athrawon a pherfformwyr. Rydym ni i gyd wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agosach ag ABRSM i helpu i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc i ffynnu trwy greu cerddoriaeth greadigol, arloesol a hael, ledled Cymru gyfan."