Gyda Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn cael ei nodi yr wythnos hon, ymhlith llwyddiannau partneriaeth tair blynedd i wella iechyd meddwl Cymru, mae menter gelfyddydol arobryn i wella lles staff y GIG ar ôl y pandemig, prosiect i gefnogi plant â phroblemau iechyd meddwl, a gŵyl gelfyddydol flynyddol i bobl ifanc.
Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring sy’n ariannu Celfyddyd a Chrebwyll ers 2021. Rhoddodd y rhaglen arian a chymorth i bob un o’n 7 bwrdd iechyd ar gyfer prosiectau lles creadigol sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau iechyd meddwl yn lleol.
Drwy’r prosiect Rhannu Gobaith rhoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y cyfle i 1,500 o’i staff a brofodd drawma neu broblemau iechyd meddwl i ddefnyddio barddoniaeth a’r celfyddydau i wella eu hiechyd. Roedd plant a phobl ifanc sy'n hysbys i Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio animeiddio, celf y cyfryngau cymysg a symud drwy'r awyr (aerial movement) i leihau straen, cynyddu gwytnwch a chyflymu eu hadferiad. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, roedd yr ŵyl gelfyddydau ieuenctid mor llwyddiannus, y trodd i fod yn ddigwyddiad blynyddol.
Dyma drydedd flwyddyn y rhaglen ac mae effaith ei phrosiectau celfyddydol ar fywyd pobl yn amlwg meddai Liz Clarke, Rheolwr Rhaglen Dros Dro yng Nghyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym yn gwybod nad oes ateb tymor byr i broblemau iechyd meddwl. Ni all yr un rhaglen eu datrys yn gyflym. Ond mae Celfyddyd a Chrebwyll yn enghraifft dda o’r rhan y gall y celfyddydau ei chwarae wrth gefnogi ein lles.
"Mae llawer o fyrddau iechyd wedi nodi bod cyfranogwyr wedi ymlacio a theimlo'n fwy diogel a chreadigol. Mae llawer wedi gwneud cyfeillion newydd, magu rhwydweithiau cymorth a chodi eu hyder drwy fynegi eu teimladau drwy gelf. Mewn rhai achosion, mae prosiectau creadigol wedi'u hintegreiddio o fewn gwasanaethau iechyd meddwl sy’n parhau."
Staff y GIG sydd wedi elwa hefyd. Roedd rhai wedi cryfhau eu perthynas â chleifion ac eraill yn dweud eu bod yn llai tebygol o ymadael â’u swydd oherwydd cefnogaeth yr ymyriadau creadigol.
Partneriaethau ar draws sectorau
Mae tystiolaeth gynyddol am effaith y celfyddydau a chreadigrwydd ar ein hiechyd a'n lles corfforol a meddyliol. Am dros 6 blynedd, mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru yn ysgogi cydweithio rhwng y ddau sector ac arloesi â dulliau newydd o ymdrin â'r celfyddydau, iechyd a lles. Mae’r byd i gyd yn gwylio’r datblygiadau â diddordeb.
Dywedodd Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cydffederasiwn GIG Cymru: "Er mwyn ymateb i'r her enfawr sy'n wynebu'r system iechyd a gofal ac i gefnogi lles staff, rhaid meddwl yn fwy cyfannol ac yn ehangach na thriniaeth glinigol draddodiadol. Mae Celfyddyd a Chrebwyll yn cynnig tystiolaeth gadarn am ran ganolog y celfyddydau i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl nawr ac yn y dyfodol.
"Ar draws y system iechyd a gofal, rydym yn deall yn well bob dydd sut y gall cymryd rhan yn y celfyddydau wella profiad cleifion iechyd meddwl a’u staff cefnogi, esgor ar ganlyniadau lles ehangach, gwrthdroi anghydraddoldeb a chynyddu ymgysylltiad cymdeithasol."
Ffotograff: Swansea Bay Arts & Minds. Credit: Swansea Bay UHB Arts and Minds