Mae CELF, yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru, yn herio'r sector ddiwylliannol i edrych ar ffyrdd newydd o gynyddu proffil a mynediad at gelf gyfoes yng Nghymru. 

Diolch i gydweithio Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor y Celfyddydau mae CELF yn cael ei ddarparu drwy rwydwaith unigryw o orielau, gyda'r nod o weddnewid y tirlun diwylliannol drwy fynd â'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes i gymunedau ar draws Cymru. 

⁠Drwy adeiladu ar egwyddorion cyd-gynhyrchu, bydd CELF yn galluogi cymunedau Cymru i fwynhau mwy o'u casgliad cenedlaethol, gan dynnu ar gasgliadau cyfoes Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a thrwy gomisiynu gwaith gan artistiaid modern.

Diolch i nawdd Llywodraeth Cymru a gwaith hwyluso Cyngor y Celfyddydau, dros y 18 mis diwethaf mae CELF wedi sicrhau buddsoddiadau sylweddol yn isadeiledd presennol y naw oriel bartner, gan eu helpu i gynyddu mynediad at weithiau yn y casgliad cenedlaethol a gweithgareddau cysylltiedig i'r cyhoedd. ⁠ ⁠ Mae'r orielau yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Glynn Vivian yn Abertawe, oriel Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Casnewydd, Oriel Davies yn y Drenewydd, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefftau Rhuthun a Storiel ym Mangor.

Dywedodd Cadeirydd Annibynnol CELF, Mandy Williams Davies:

Mae gan Gymru dreftadaeth gelfyddydol gyfoethog ac unigryw.Gall celf gyfoes ein helpu i fynd i'r afael â chwestiynau mawr am ein hunaniaeth fel cenedl, beth sy'n bwysig i ni ac i ble ydyn ni'n mynd.

Bydd gweithiau celf gyfoes o'r casgliad cenedlaethol yn cael eu benthyg a'u harddangos ar draws y rhwydwaith hwn, ac mae gweithiau comisiwn a gweithgareddau allestyn yn barod wedi ymgysylltu â chymunedau lleol a chenedlaethol. Drwy weddnewid y mynediad at gelf gyfoes ar draws Cymru, nod CELF yw gwneud celf gyfoes yn rhan amlycach o fywyd a lles bob dydd."⁠

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gweithgareddau ac arddangosfeydd CELF wedi cael eu cynnal ar draws Cymru, fel project gwobrwyog Teulu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac arddangosfa Carreg Ateb: Vision or Dream? yn Mostyn, Llandudno. Fis Medi diwethaf daeth artistiaid, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd i ddilyn llwybr drwy ganol Aberteifi o weithiau crefft comisiwn ac i ddathlu a dehongli gwrthrychau o'r casgliad cenedlaethol mewn ffordd ddynamig, newydd.

Dywedodd Ffion Rhys o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, un o'r orielau partner: 

"Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn falch o fod yn rhan o fenter CELF, syn ein galluogi ni i ddod â'r casgliad celf gyfoes cenedlaethol yn agosach at ein cynulleidfaoedd. Dylai'r celfyddydau fod yn agored i bawb, a gwireddu'r freuddwyd honno yw nod CELF. 

“Diolch i'r nawdd, rydyn ni wedi uwchraddio ein systemau awyru a goleuo er mwyn creu hinsawdd addas i arddangos gweithiau pwysig, ac rydyn ni wedi ehangu'r tîm addysg ac allestyn i gysylltu â chymunedau newydd. 

“Fel oriel heb gasgliad ein hunain, mae'r gronfa gomisiynu wedi bod yn newid byd, gan roi cyfle i ni gefnogi artistiaid o Gymru i greu gwaith newydd. Cafodd ein harddangosfa gyntaf fel rhan o CELF – Teulu – ei churadu ar y cyd â theuluoedd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu'r gynulleidfa honno. Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosib."

Diolch i nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae CELF hefyd wedi hwyluso project mawr sydd erbyn hyn wedi digideiddio dros 30,000 o weithiau o gasgliadau cenedlaethol Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Drwy hyn bydd gwefan CELF yn rhoi cyfle i'r cyhoedd bori drwy filoedd o weithiau gan fwynhau, dysgu a chael eu hysbrydoli. 

Esboniodd Pennaeth Celf Amgueddfa Cymru, Ceri Jones: 

"Bydd y platfform digidol yn rhoi cip i bobl tu ôl i'r llenni ac yn esbonio mwy am y gweithiau celf, yr artistiaid, a'r straeon a'r llefydd wnaeth eu hysbrydoli. 

“Gallwn ni roi cyfle i artistiaid comisiwn esbonio mwy, fel Angharad Pearce Jones a Geraint Ross Evans. Bydd lle hefyd i weithiau comisiwn gan bartneriaid CELF – fel y project gyda Bardd Plant Cymru wnaeth roi cyfle i blant ysgol o Gwm Rhondda i Langefni greu barddoniaeth yn ymateb i weithiau yn y casgliad gan artistiaid fel Mike Perry, Caroline Walker a Donald Rodney."

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

"Mae'r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y model unigryw hwn yn galluogi pobl i fwynhau'r casgliad yn eu cymunedau eu hunain. Bydd y platfform digidol newydd hefyd yn sicrhau y gall mwy o bobl ar draws Cymru, y DU a thu hwnt gael mynediad at y casgliad cenedlaethol unrhyw bryd, unrhyw le, mewn unrhyw fodd.

“Rydyn ni'n llwyr gefnogi gweledigaeth CELF i feithrin perthynas a chyfleon newydd gyda'r gymuned gelf weledol, gan sicrhau bod celf gyfoes yn dod yn rhan gryfach o iechyd a lles ein cymunedau."

Am ragor o wybodaeth am CELF a'r rhaglen ddigwyddiadau, ewch i  celfarycyd.cymru.