Odyssey yw grŵp cymunedol oedolion Hijinx.
Eleni, rydym yn dathlu 25 mlynedd o greu theatr gymunedol ddifyr i deuluoedd.
Bob gaeaf mae ein haelodau’n perfformio yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae ein dramâu yn cael eu hysgrifennu ar gyfer y cast, sy’n gweithio gyda thîm cynhyrchu proffesiynol sy’n gweithio dros ein haelodau.
Eleni bydd ein cast hefyd yn dyfeisio a pherfformio darn o theatr awyr agored ar gyfer Gŵyl Undod Hijinx.
Mae ein haelodau:
- Yn 25 oed a hŷn
- Yn anabl a heb fod yn anabl
- Wrth eu bodd yn perfformio
- Yn ffynnu mewn cymuned brysur, hwyliog
A ydych yn mwynhau perfformio? A ydych yn chwilio am gyfle newydd cyffrous eleni?
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am 3 aelod niwronodweddiadol i ymuno â’r cast.
Mae'n bwysig gwybod...
- Amseroedd ymarfer: Nosweithiau Llun 7 – 9pm (yn ystod y tymor) a rhai penwythnosau (yn nes at berfformiadau)
- Lleoliadau ymarfer: Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
- Mae’r aelodau yn gymysgedd o rai â phrofiad proffesiynol a heb fod yn broffesiynol o berfformio
- Mae ffi dymhorol o £40 (yn daladwy 3 gwaith y flwyddyn). Bydd hyn yn codi i £45 y tymor ym mis Ebrill 2024
Mae ein haelodau wedi llunio amgylchedd diogel, cefnogol. Maent yn ystyried eu hunain yn deulu ac maent yn eiddgar i groesawu egni newydd i’r grŵp.
Y broses o ymuno:
Cais (gweler y manylion isod) - rydym yn gofyn am geisiadau fel ein bod yn gallu dod o hyd i bobl sy’n ymroddedig ac a fydd yn addas i Odyssey.
Yna byddwn yn gwahodd unigolion i ymuno â ni am sesiwn flasu.
Byddwn ni yn gofyn sut y gwnaethoch chi weld y profiad ac os hoffech chi ddal i barhau.
Bydd y grŵp yn trafod pwy y maen nhw’n ei deimlo sydd yn gweddu orau i’r gymuned.
Byddwn yn cysylltu â phawb gyda’r canlyniad, a fydd yn gynnig i ymuno neu beidio.
Dylid anfon negeseuon e-bost at jon.dafydd-kidd@hijinx.org.uk. Y dyddiad cau i ymgeisio yw dydd Llun 1af Ebrill.
Dysgwch fwy am sut i wneud cais ar wefan Hijinx. E-bostiwch jon.dafydd-kidd@hijinx.org.uk gydag unrhyw gwestiynau. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!