Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn lansio gwobr gelfyddydol newydd. Mae’r wobr – o’r enw Cyfosod: Cyfarthfa – yn cael ei lansio fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Cyfarthfa eleni a bydd yn arwain at gomisiynu o leiaf 1 gwaith celf newydd. 

Mae Cyfosod: Cyfarthfa wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Cyfarthfa, sef y sefydliad elusennol sy’n hyrwyddo datblygiad hirdymor Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.

Mae Cyfosod: Cyfarthfa yn gwahodd artistiaid newydd sy’n gweithio yng Nghymru i archwilio ac ymgysylltu â’r casgliad presennol o 350+ o weithiau celf yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa ac i osod ymateb cyfoes ochr yn ochr â nhw. Mae panel o feirniaid wedi’i gynnull eisoes, a bydd y cyflwyniadau buddugol yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn yr haf. Yna, bydd y tri darn buddugol yn cael eu harddangos mewn arddangosfa arbennig, Cyfosod, ochr yn ochr â’r hyn sydd wedi eu ‘hysbrydoli’. Bydd yr arddangosfa, wedyn, yn ffurfio asgwrn cefn rhaglen ehangach o weithgareddau addysg a chymunedol, gan roi anogaeth bellach i bobl o bob cefndir ymgysylltu â’r casgliad ehangach o waith celf yng Nghyfarthfa. 

Gwahoddir artistiaid i gyflwyno gwaith mewn un o dri chategori: paent, ffotograffiaeth neu brint. Bydd yr artist buddugol ym mhob categori yn derbyn £500 a bydd y prif enillydd yn derbyn £1,000 tuag at sioe unigol 3 mis yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa. Bydd 3 gwobr unigol o £100 yn cael eu dyfarnu i artistiaid amatur hefyd.

Bydd y panel beirniaid yn cynnwys André Stitt, artist arobryn o Belfast, Gogledd Iwerddon a oedd yn athro celfyddyd gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac sy’n un o gymrodorion y Gymdeithas Gelf Frenhinol; Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru; a Sarah Hopkins, gwneuthurwr printiau, Cyfarwyddwr Gweithdy Print Abertawe ac aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig.

Mae Cyfosod: Cyfarthfa yn rhan o ddyheadau’r amgueddfa i gasglu celf gyfoes newydd, a bydd o leiaf un o’r darnau buddugol yn cael ei gaffael ar gyfer y casgliad parhaol yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa er budd cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r amgueddfa wedi bod yn casglu ac yn arddangos celf ers 1910 ac mae gwaith rhai o artistiaid mwyaf mawreddog Cymru yn rhan o’r casgliad. Bu’n bosibl caffael gwaith celf newydd diolch i gyllid Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru yng Ngwanwyn 2023 a sicrhaodd fod mwy o le i storio casgliad helaeth yr amgueddfa o dros 18,000 o eitemau. 

Dywedodd Jess Mahoney, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Cyfarthfa, “Rydym wrth ein boddau yn gweithio gyda’r tîm yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa i lansio Cyfosod: Cyfarthfa. Mae Sefydliad Cyfarthfa yn falch o fod yn hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu ac adfer Cyfarthfa fel ased treftadaeth a diwylliannol sy’n creu lle. Bydd y wobr hon yn gwella statws presennol Cyfarthfa fel cyrchfan allweddol ar gyfer celf gyfoes yng Nghymru, ac yn ychwanegu cynrychiolaeth fodern bellach at gasgliad hanesyddol trawiadol.

“Pen-blwydd Cyfarthfa yn 200 oed yw’r amser perffaith i lansio’r wobr hon ac i dynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi nawr yn ein dyheadau ar gyfer Cyfarthfa. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld gwaith yr artistiaid a sut maen nhw’n ymateb i’r casgliad anhygoel hwn.”

Dywedodd Klara Sroka, Cydlynydd Celfyddydau ac Arddangosfeydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa: “Fy ngweledigaeth a’m bwriad ar gyfer yr arddangosfa a’r wobr gelf hon yw eu bod yn ailbennu enw da Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa fel prif sefydliad celf gyfoes Gymreig yng Nghymoedd De Cymru. Mae cymaint o dalent anhygoel ar draws y sîn gelf heddiw fel bod yn rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos y drafodaeth a’r ysbryd trawiadol sydd wedi bodoli yma erioed ym Merthyr Tudful a’r ardaloedd cyfagos. Roeddwn i’n falch iawn o rannu’r uchelgais hon gyda’r tîm yn Sefydliad Cyfarthfa a hoffwn ddiolch iddynt am y nawdd maen nhw wedi’i roi ar gyfer y wobr gelf, i gydnabod ein dathliadau deucanmlwyddiant”.

Bydd mynediad i wobr gelf Cyfarthfa yn costio £15, neu £10 i fyfyrwyr, y rhai mewn addysg a phobl dros 60 oed. Bydd y ceisiadau’n cau ddydd Sul 28 Mai (5pm) 

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.cyfarthfa.co.uk/cy/beth-sydd-ymlaen/arddangosfeydd/gwobr-gelf-cyfosod-cyfarthfa-2025/