Mae Mali Haf ac Efa Blosse-Mason wedi creu'r myfyrdod unigryw ar gyfer y Cwtsh Creadigol, casgliad o adnoddau llesiant creadigol i staff iechyd a gofal Cymru.
Mae'r gantores Mali Haf a'r darlunydd Efa Blosse-Mason wedi cynhyrchu animeiddiad ymwybyddiaeth ofalgar, y cyntaf o'i fath, drwy gyfrwng y Gymraeg i gefnogi'r GIG a gweithwyr gofal.
'Myfyrdod' yw enw’r cydweithrediad newydd a chaiff siaradwyr Cymraeg eu cymryd ar daith ymwybyddiaeth ofalgar 10 munud wedi'i hadrodd gan Mali. Crewyd yr animeiddiad a'i ddelweddau tawel gan Efa, gwneuthurwr ffilmiau a darlunydd o Gaerdydd.
Eglurodd Mali ei bod yn hollbwysig creu’r darn yn y Gymraeg. Meddai, "Mae'r byd yn dod yn fwy ymwybodol o iechyd meddwl, pa mor hanfodol yw cael iechyd meddwl da a’r hyn sy’n ei danseilio. Mae cymaint o adnoddau yn y Saesneg ond mae’n well gen i gael fy arwain drwy fy myfyrdod yn Gymraeg. Mae'n hepgor yr angen i gyfieithu o hyd a gallu ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cynnwys."
Crewyd y Cwtsh Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru gydag arian Llywodraeth Cymru. Mae’n rhan o raglen o waith partneriaeth ym maes y Celfyddydau ac Iechyd i godi ymwybyddiaeth o'r manteision lles hysbys o gymryd rhan yn y celfyddydau.
Cynlluniwyd y Cwtsh mewn ymgynghoriad â Gwella Addysg Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cydffederasiwn GIG Cymru, Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd a grwpiau ffocws o weithwyr gofal iechyd.
Mae sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar Efa a Mali ar gyfer y Cwtsh Creadigol i'w gweld yma – Myfyrdod | Cwtsh Creadigol.
Am ragor o wybodaeth neu am gyfweliad, cysylltwch â thîm Cwtsh Creadigol cwtshcreadigol@celf.cymru