Mae Camau Creadigol yn canolbwyntio ar y rhai sy'n nodi eu bod yn ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol, wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu, a phobl Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol.
Mae ymchwil yn dangos bod ein cyllid yn methu â chyrraedd pobl o'r cefndiroedd a'r profiadau personol hyn. Rydym am gyrraedd neu gefnogi pobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a phobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol, boed fel artistiaid, fel staff sefydliadau, fel sefydliadau sy'n bennaf yn cefnogi cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol neu mewn rolau sy'n gwneud penderfyniadau. Nod y Camau Creadigol yw goresgyn rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl a chefnogi amrywiaeth o gynigion creadigol.
Dywedodd Andrew Ogun, Asiant er Newid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:
"Rydym yn falch iawn o fod yn ail-lansio Camau Creadigol i Sefydliadau ac Unigolion, a gobeithiwn fod hwn yn barhad o'n gwaith gydag ehangu ein hymgysylltiad â chymunedau sydd angen fwyaf ein hadnoddau a'n platfform. Drwy ganolbwyntio ar bobl o gefndiroedd ethnig ac amrywiol yn ddiwylliannol, pobl fyddar ac anabl, pobl niwroamrywiol a phobl sy'n profi gwahaniaethu, ein gobaith yw y gall Camau Creadigol fod yn gatalydd ar gyfer newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru, gan sicrhau bod sefydliadau ac unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ar eu teithiau creadigol."
Drwy Gamau Creadigol, ein nod yw bod yn fwy hyblyg yn y ffordd rydym yn eich helpu gyda'ch syniadau a gallwn hefyd eich arwain drwy'r broses ymgeisio. Gallwn hefyd fod yn fwy hyblyg am y math o gynnig rydym yn ei ariannu a faint o gyllid y gallwn ei gynnig.
Gall y gronfa hefyd dalu costau fel eich amser eich hun, neu gostau am ofal plant neu gyfrifoldebau gofalu.
Bydd hon yn rhaglen dreiglo, gyda cheisiadau'n cael eu derbyn ar ddiwrnod olaf pob mis. Y dyddiad cau cyntaf fydd 31 Rhagfyr 2022. Mae Camau Creadigol ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng £500 a £250,000 ac mae wedi bod yn bosibl, diolch i'r arian a godir bob wythnos gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol at achosion da.
Am ragor o wybodaeth, a manylion sut i wneud cais neu siarad â ni i weld a yw'r gronfa’n addas i chi, cliciwch isod: