Dros yr haf, fe gyhoeddodd Caerdydd Creadigol a Hypha Studios eu bod am roi’r cyfle i grwpiau o artistiaid ddefnyddio dwy uned fanwerthu wag ar Stryd y Frenhines, Caerdydd. Ar ôl derbyn nifer o geisiadau o ansawdd uchel, dewiswyd Future Arts Collective Cymru a PWSH & Neurospicy Play Date. Mae’r rhain bellach wedi symud i mewn i’r unedau gan eu defnyddio i gynhyrchu, arddangos ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae Hypha Studios yn elusen gofrestredig sy'n ddolen gyswllt rhwng landlordiaid ac artistiaid. Ei nod yw helpu artistiaid a phobl greadigol i fanteisio ar leoedd gwag ar y stryd fawr a chael gwared ar yr hyn sy’n rhwystro cydweithio. Ers lansio’r elusen yn 2019, mae Hypha wedi cefnogi cyrff yn y sector diwylliannol drwy roi gwerth £2.2M o leoedd am ddim iddynt. Mae hyn wedi helpu i adfywio strydoedd mawr a thrawsnewid canolfannau trefol yn hybiau diwylliannol sy’n ffynnu a lle cynhelir digwyddiadau am ddim dan arweiniad y gymuned.

Ym mis Mehefin 2024, daeth Hypha Studios a Chaerdydd Creadigol ynghyd i hyrwyddo cyfle cyntaf Hypha i fanteisio ar leoedd gwag yng Nghymru.

Mae artistiaid PWSH wedi creu murluniau radical a llawn llawenydd yn ogystal â phrosiectau celf gyhoeddus i ddathlu gwahaniaeth ac ailddychmygu lleoedd cyhoeddus ledled Caerdydd. Grŵp celfyddydol niwroamrywiol sy’n prysur ennill ei blwyf yw Neurospicy Playdates, ac mae’n cynnal sesiynau lles i bobl niwrowahanol. Hanfod dod â’r ddau brosiect hyn at ei gilydd a rhannu lleoliad yw bod yn gynhwysol mewn modd ystyrlon a sicrhau bod y celfyddydau a lles creadigol ar gael i bobl sydd ar yr ymylon.

Mae eu rhaglen gyhoeddus yn cynnwys preswyliadau, sesiynau lles creadigol, gweithdai celf, digwyddiadau meddiannu, arddangosfeydd a sesiynau cydweithio â phartner, yn ogystal â chynnal lle ar gyfer sgwrsio â'r gymuned.

Maent yn mynd i gydweithio â Benthyg (@benthyg) i greu llyfrgell gelf dros dro wythnosol yn ogystal â Visual World (@our .visual.world) i gynnal clybiau celf wythnosol i bobl Fyddar. Mae digwyddiadau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys Sesiynau ‘Spicy Desk’ (gigs bach), Clwb Pypedau gydag artist PWSH Ren Wolfe, cymdeithasau celf wythnosol bob nos Iau, gwneud murluniau cymunedol, a bydd Gwaith yn dod i'r gofod i gael sgwrs a chyd-gynnal digwyddiad cymdeithasol ym mis Tachwedd.

Cewch wybod rhagor am PWSH/Neurospice Playdate a'u cynlluniau ar gyfer y lleoliad ar eu cyfrifon Instagram (@pwshcdf/@neurospicyplaydatecdf) neu ewch i wefan PWSH.

Mae Future Arts Collective Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo dyfodol gwahanol. Dyfodol yw hwn sy'n canolbwyntio ar gymuned, gofal a llawenydd yn ogystal â’n galluogi i gydweithio i greu dyfodol sy’n cynnig gobaith a chyfiawnder. 

Mae’r elusen hon yn gyfuniad o hwyluswyr celfyddydau cymunedol, cerddorion, artistiaid perfformio, addysgwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a gwneuthurwyr crefftau. Maent yn cynnwys Kate Woodward, Reb Sutton, Neo Ukandu, Cliodhna Ryan, Sereen Al Khutubi, Trishna Jaikara a Skye Kimber.

Mae lleoliad FACC yn 117 Heol y Frenhines yn ganolfan ficro-gymunedol lle gall aelodau a grwpiau cymunedol greu'r dyfodol yr ydym am ei weld. Gall hyn gynnwys cynnal eu cymdeithasau cymdeithasol, gweithdai, digwyddiadau ac arddangosfeydd eu hunain, neu gymryd rhan ynddynt.

Cewch wybod rhagor am Future Arts Collective Cymru a'u cynlluniau ar gyfer y lleoliad hwn ar eu cyfrif Instagram (@future_arts_collective_cymru)