Bydd trydedd rownd o breswylfeydd rhyngwladol yn y celfyddydau gweledol i Fluxus Magnetig yn Ffrainc a’r DU yn agor i gais ar 21 Mai tan 15 Gorffennaf 2024.

 

Mae’r rhaglen eisoes wedi cefnogi 8 partner rhyngwladol ac 17 artist. Nawr mae’r rhaglen yn ehangu ei rhwydwaith i 2 breswylfa arall ym Mharis a Llundain.

 

MAGNETIG

 

Mae’n rhaglen ar y cyd rhwng y DU a Ffrainc dan ymbarél Prosiectau Celf Fluxus. Mae’n dod â 10 sefydliad at ei gilydd i greu rhwydwaith o breswylfeydd i artistiaid yn rhanbarthau Ffrainc a chenhedloedd y DU.

 

Mae pob preswylfa’n bartneriaeth rhwng rhanbarth Ffrainc a chenedl yn y DU:

 

  • Frac Bretagne, Roazhon/Rennes, Llydaw i ymgeiswyr Cymru
  • Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth i ymgeiswyr Llydaw

 

  • Frac Grand Large, Dunkerque, Hauts-de-France i ymgeiswyr Gogledd Iwerddon
  • Stiwdios Celf Flax, Belffast/Béal Feirste, Gogledd Iwerddon i ymgeiswyr Hauts-de-France

 

  • Villa Arson, Nice, Provence-Alpes-Côte d'Azur i ymgeiswyr yr Alban
  • Parc Cove, Helensburgh, yr Alban i ymgeiswyr Provence-Alpes-Côte d'Azur

 

  • CAPC, Bordeaux, Nouvelle-Aquitaine i ymgeiswyr Lloegr
  • Canolfan Gelfyddydol Wysing, Caergrawnt, Lloegr i ymgeiswyr Nouvelle-Aquitaine

 

  • Bétonsalon, Paris i ymgeiswyr Lloegr
  • Gasworks, Llundain i ymgeiswyr rhanbarth Île-de-France

 

Rydym yn gwahodd artistiaid Ffrainc i ymgeisio am breswylfa yn y wlad gysylltiedig yn y DU a rhai’r DU i ymgeisio am y rhanbarth cysylltiedig yn Ffrainc.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar wefan Fluxus.

 

Materion cymdeithasol ac amgylcheddol sydd wrth wraidd y rhaglen. Mae'r preswylfeydd wedi'u teilwra i bob sefydliad a'i ardal leol. Bydd gwahoddiad i’r artistiaid ymateb i gyd-destunau daearyddol, hanesyddol, cymdeithasol neu artistig penodol.

 

Mae Magnetig 3 yn cynnig:

  • preswylfa 2 fis wedi'i theilwra mewn trafodaeth â thîm curadu’r sefydliad
  • ffi fisol o £2,100 neu 2500 €
  • llety a lle i weithio  
  • mentora curadurol
  • cyfleoedd rhwydweithio rhyngwladol

 

Rydym yn edrych ymlaen at gael eich cais

 

Amserlen

  • 21 Mai–15 Gorffennaf: cyfnod ymgeisio
  • Ail hanner Medi: pwyllgorau dewis a chyfweld â’r artistiaid a gafodd eu dewis ymlaen llaw
  • Dechrau mis Hydref: cyhoeddi’r enillwyr
  • Tachwedd: preswylfeydd yn dechrau

 

Os ydych am ymgeisio, rhaid cyflwyno cynnig artistig sy'n amlinellu arbenigedd eich ymarfer a’ch diddordebau ymchwil a pham eu bod yn berthnasol yng nghyd-destun y sefydliad yr ydych yn ymgeisio amdano. Hefyd darn byr sy'n disgrifio eich cymhelliant dros ymgeisio am breswylfa ryngwladol ar yr adeg yma yn eich gyrfa a manteision hynny.

 

Pwysig

  • Dim ond artistiaid gweledol cyfoes sy’n gallu ymgeisio
  • Nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio
  • Rydych yn gysylltiedig â gwlad/rhanbarth os oes gyda chi gyfeiriad preswyl yno
  • Bydd ymgeiswyr Lloegr yn gallu ymgeisio i un o ddau le: CAPC, Bordeaux neu Bétonsalon, Paris
  • Rhaid i bob cais fod yn Saesneg ond bydd ymgeiswyr Cymru yn gallu ymgeisio yn y Gymraeg neu’r Saesneg
  • Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar y cyd (gan ddau neu ragor o bobl)

 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau gan y rhai o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – o ran hil, ethnigrwydd, rhywedd, cefndiroedd incwm isel ac ymgeiswyr sy'n F/fyddar, anabl neu niwroamrywiol.

Mae gwahanol sefyllfaoedd hygyrchedd gan bob sefydliad sy’n cynnig preswylfa. Edrychwch ar ein gwefan i’w gweld.

 

Rydym yn barod i drafod unrhyw ofynion penodol. Os oes arnoch angen cymorth hygyrchedd ar unrhyw gam wrth ymgeisio, rhowch wybod inni.

 

Cyswllt:

fluxusartp@gmail.com

https://fluxusartprojects.com/magnetic-residencies

 

 

Y canlynol sy’n cefnogi Magnetig:

Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Yr Alban Greadigol

Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon

Cyngor Celfyddydau Lloegr

Y Cyngor Prydeinig 

Institut français du Royaume-Uni

Institut français

Gweinyddiaeth Ffrainc dros Ddiwylliant

Gweinyddiaeth Ffrainc dros Ewrop a Materion Tramor