Penodwyd David Hopkins yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr Jones the Dance / y Ddawns a bydd yn helpu i arwain y bwrdd ar gyfnod cyffrous i’r cwmni dawns.

Mae Jones the Dance/ y Ddawns yn gwmni dawns annibynnol o Gymru sydd wedi bod yn creu, rhannu a chyflwyno profiadau dawns gyfoes blaengar a thrawsnewidiol ers 2014 (Gwyn Emberton Dance fel yr oedd). Mae eu gwaith yn cynnwys cynyrchiadau dawns teithiol, rhaglenni dawns ieuenctid i bobl ifanc sy’n f/Fyddar yn Ne Cymru, ac i’r rhai sydd yn ynysig mewn ardaloedd gwledig yng Nghanolbarth Cymru, yn ogystal â dod â phrosiectau dawns rhyngwladol i Gymru. 

Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, ildiodd Sharon Casey ei swydd fel Cadeirydd, ac mae David yn teimlo ei bod yn fraint cymryd y swydd ar gyfnod cyffrous i’r cwmni. Ymunodd David â bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2019 ac mae eisoes wedi helpu i arwain a siapio dyfodol y cwmni dawns.  

“Mae 2024 yn addo bod yn flwyddyn gyffrous iawn i ni i gyd yn Jones y Ddawns – Y Dewis, ein cynhyrchiad teithiol sy’n plethu ffilm a pherfformiad byw gyda’i gilydd; parhad a thwf ein Cwmni Ifanc trwy brosiectau Quiet Beats a Jones Bach, sydd wedi ennill enw da am fod wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau; a dod o hyd i ffordd i Jones y Ddawns ddod â’r prosiect ymchwil a chynhyrchu trwy Ewrop iCoDaCo arloesol yn ôl i Gymru. Fel Cadeirydd, byddaf yn sicrhau y bydd y Bwrdd yn gwneud popeth allwn ni i gefnogi’r weledigaeth uchelgeisiol hon, ac i barhau i fod yn uchelgeisiol i’r sector dawns annibynnol yng Nghymru yn ei gyfanrwydd.”
 
Mae David Hopkins yn godwr arian profiadol i’r celfyddydau a gweithiwr marchnata proffesiynol sy’n byw yng Nghaerdydd. Yn un o raddedigion Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru, mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi yn ymwneud â’r celfyddydau ac elusennau, gan gynnwys gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, Proms y BBC, Greenwich Dance, Mind Casnewydd ac mae’n awr yn gweithio i Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fel Rheolwr Codi Arian a Datblygu.

Dywedodd Gwyn Emberton, Cyfarwyddwr Artistig a sefydlydd Jones y Ddawns, “Rydym yn falch iawn o gael David yn ymddiriedolwr ac yn awr yn Gadeirydd i’r Cwmni. Mae’r gefnogaeth y mae eisoes yn ei rhoi i ni a’r gred a’r anogaeth i’n huchelgeisiau yn helpu i yrru’r cwmni i gyflawni’r prosiectau cyffrous sydd gennym ar y ffordd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Bydd ei brofiad a’i arbenigedd eang yn y celfyddydau, codi arian, marchnata a rheoli, yn ogystal ag ym myd celfyddydau ieuenctid, yn helpu i arwain y tîm yn Jones y Ddawns. Rydym yn edrych ymlaen am gael gweithio yn glos gydag ef a’r ymddiriedolwyr.”