Cafodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George ei gymryd yn sâl ddydd Mawrth 13 Medi, ac ar hyn o bryd mae'n derbyn triniaeth yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd. Mae adroddiadau cynnar yn nodi ei fod yn ymateb yn dda i driniaeth. Y Dirprwy Gadeirydd, Kate Eden, fydd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros Gadeirio'r Cyngor dros dro.

Mae teulu Phil wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn iddyn nhw ganolbwyntio ar ofalu amdano a sicrhau ei wellhad buan,

Dylid cyfeirio unrhyw ohebiaeth ar gyfer y Cadeirydd i'r Prif Weithredwr dros dro, Michael Elliott.

DIWEDD                                             15 Medi 2022