Mae gennym gyhoeddiad cyffrous iawn! Mae Queertawe yn cynnal cabaret arall ar gyfer Penwythnos Celfyddydau Abertawe!
Bydd ein cyfranogwyr anhygoel yn arddangos eu perfformiadau doniol, secsi a gwirion unwaith eto ar yr 11eg o Hydref yn Elysium. Felly os gwnaethoch chi golli ein cabaret diwethaf neu os na allwch chi gael digon o'r holl dalent, gallwch chi gael eich tocynnau AM DDIM trwy'r linc.
Bydd y sioe hon hefyd yn cael ei chyfieithu mewn Iaith Arwyddion Prydain.
Ymunwch â ni am noson o berfformiadau cabaret cwiar difyr ac ychydig yn wallgof. Bydd perfformiadau gwych a hynod ddoniol gan y rhai hynny sy’n cyfranogi ym mhrosiect Queertawe. Gallwch ddisgwyl cymysgedd o berfformiadau drag, bwrlésg, comedi a’r celfyddydau perfformio, y bydd elfen hudol i bob un ohonynt. Meddyliwch am fydoedd ôl-apocalyptaidd, creaduriaid hynod, clowniaid a mwy. Bydd yn rhyfedd, yn rhyfeddol ac yn cwiar tu hwnt.
Mae Queertawe yn lle diogel a sobor lle gall cymuned gwiar Abertawe ddathlu ei hun a'i straeon. Rydym yn cynnal gweithdai creadigol wythnosol ac rydym wedi cynnal digwyddiadau amrywiol yn Abertawe, o Ffrinj Queertawe i arddangosfa gelf ryngweithiol, a nosweithiau cabaret i ddigwyddiadau barddoniaeth meic agored a chyfleoedd i'r ieuenctid gymryd yr awenau. Am ragor o wybodaeth neu i ymuno yn ein gweithdai, ewch i www.queertawe.co.uk
Am ddim gyda thocyn!