Mae Polka Theatre a Theatr Iolo ar fin gweddnewid stori luniau ysbrydoledig a digri Emily Gravett, Tidy, yn gynhyrchiad llwyfan hudol i blant tair hyd at saith oed.

Bydd y cynhyrchiad yn bywiogi hanes mochyn daear sydd am i bopeth fod yn dwt ac yn ei le ond sydd, ar ddamwain, yn chwalu ei gartref ei hun wrth lanhau’r goedwig lle mae’n byw.

Wedi’i seilio ar y llyfr lluniau i blant gan yr awdur a’r darluniwr enillodd lu o wobrau, Emily Gravett, stori dyner ond rhybuddiol ydi Tidy, am werth y byd o’n cwmpas ni a be sy’n digwydd os nad ofalwn ni amdano. Cyhoeddwyd Tidy yn 2016 gan Two Hoots, un o wasgnodau Macmillan Children’s Books, ac mae teuluoedd ac athrawon fel ei gilydd yn dotio ato.

Mae yn y sioe chwareus yma bypedau hardd, cerddoriaeth wreiddiol a chyffyrddiad o wiriondeb ac fe fydd cynulleidfaoedd ifainc wrth eu boddau o’i gweld yn chwilio’r syniad bod ar bawb angen tipyn bach o lanast gwyllt yn eu bywydau. 

Dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford, bydd Tidy yn agor yn Polka Theatre yn Wimbledon ym mis Chwefror 2024 a bydd ar fynd am chwe wythnos. Wedyn bydd y sioe’n symud i Gymru yng ngwanwyn 2025, lle perfformir hi ochr yn ochr â Taclus, gwedd Gymraeg wedi’i seilio ar yr addasiad gan Mari George, a gyhoeddir gan Rily.

Perfformir Tidy yn Polka Theatre o 10 Chwefror tan 24 Mawrth 2024. Mae’r tocynnau ar gael nawr i’w codi ar lein o polkatheatre.com neu o roi caniad i’r Swyddfa Docynnau ar 020 8543 4888. I gael rhagor o wybodaeth am daith Tidy a Taclus yng Nghymru, ewch i theatriolo.com ac ymgofrestru yn ei e-newyddlen.