Dawns/profiad theatrig pŵerus a phersonol ar daith mis Ebrill/Mai yma

Bydd Deborah Light, sy’n ddylanwadol ac yn weithredol yn ei maes yn rhoi ei pherfformiad unigol personol a phŵerus cyntaf ym mis Ebrill. Bydd ‘An Autopsy of a Mother, a Bear and a Fridge’ yn mynd ar daith i wyth lleoliad yng Nghymru a Lloegr.

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i fod yn dyst i’r archwiliad o’r tri gwrthrych yma sy’n ymddangosiadol ddigyswllt. Wrth i Deborah ddadorchuddio meinwe cysylltiol, rhwng y fam, yr arth a’r oergell, mae’n datguddio ei breuder, ei gwylltineb, ei synnwyr digrifwch a’i chryfder ei hun. Gyda chreulondeb oer, clinigol, agosatrwydd cynnes a chynddaredd penboeth ffeministaidd mae’n datguddio profiadau personol a systemau patriarchaidd sy’n rhoi pwysau ar gorff menywod.

Mae hon yn foment bwysig yng nghyfeiriad artistig Deborah: Am y 12 mlynedd ddiwethaf mae hi wedi blaenoriaethu ei theulu ifanc, ac mae hi nawr yn dychwelyd i’w hymarfer coreograffi annibynnol. Mae’n dwyn ei phrofiad a’i chwilfrydedd ynghyd gyda thîm anhygoel o gydweithwyr i greu gwaith newydd, aeddfed sy’n cael ei arwain gan fenyw.

"Rwy’n credu ei bod yn bwysig rhoi naratifau sy’n cael eu harwain gan fenywod ac yn arbennig naratifau a chyrff menywod hŷn yn y cylch creadigol," eglurodd Deborah.

“Mae’r gwaith yn seiliedig ar fy mhrofiad personol o fod yn fam ac yn fenyw ac mae’n datguddio systemau patriarchaidd sy’n rhoi pwysau ar gyrff merched ac sydd wedi siapio fy mhrofiad. Mae yna wylltineb a chynddaredd yn y gwaith, sy’n dod o gydnabod bod profiadau nifer o ferched yn llawer mwy creulon na fy un i a chydnabyddiaeth bod yr un systemau patriarchaidd/cyfalafol yw beth sy’n rhoi pwysau ar ein systemau hinsawdd ac ecolegol. Mae yna hefyd gynhesrwydd, doniolwch a gofal yn y gwaith, yn ogystal ag ymwneud â bod dan straen mae hefyd am gadw a gwarchod.”

Bydd Deborah yn gweithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cyn y cynhyrchiad, o redeg dosbarthiadau symud i ddarparu adnoddau ar gyfer grwpiau darllen ynghylch y testunau sydd wedi ysbrydoli’r sioe ac sy’n ymddangos ynddynt. Mae yna hefyd adnodd ar gyfer grwpiau celf a chrefft a fyddai o bosib am gael eu hysbrydoli i greu eu gwaith eu hunain yn seiliedig ar themâu’r sioe.

Mae sgript (papur neu ddigidol) ar gael ymlaen llaw ar gais ac yn y perfformiad. Mae’r sgript yma yn cynnwys pwyntiau cyfeirio gweledol a manylion ynghylch yr elfennau cerddoriaeth/sain a gynhwysir yn y cynhyrchiad.

Mae creu An Autopsy of a Mother, a Bear and a Fridge yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddyddau Cymru a’i gefnogi gan Chapter, NDCWales, SPAN Arts, Taking Flight ac YMa.

Ffoto: Kirsten McTernan Photography