Paratowch i brofi stori bwerus am undod, cyfeillgarwch a ffyddlondeb, yn dod yn fyw ar y llwyfan yn ein cyflwyniad o Brassed Off - wedi’i osod mewn cymuned lofaol Gymreig!
Ymunwch â thrigolion y dref glos hon yn y cymoedd wrth iddynt wynebu cau eu pwll glo lleol. Er gwaethaf popeth, mae’r criw hwn o unigolion penderfynol yn dod at ei gilydd i achub nid yn unig eu swyddi, ond eu ffordd o fyw. Gyda chast serol o actorion Cymreig talentog, dyluniad set gwych a cherddoriaeth sy’n cynhyrfu’r enaid, bydd y sioe hon yn apelio at bawb 12 oed+.
Byddwch yn dyst i angerdd tanbaid band pres y glowyr wrth iddynt gystadlu mewn pencampwriaethau cenedlaethol, gan roi eu calonnau a’u heneidiau i mewn i bob nodyn. Ac yn ystod y stori cewch eich tywys ar daith o dorcalon, gobaith a buddugoliaeth a fydd yn eich gadael yn gweiddi am fwy! Felly ymunwch â ni am noson fythgofiadwy o theatr wrth i ni ddathlu ysbryd a gwytnwch cymunedau glofaol Cymru.
Sioe na ddylid ei methu yn sicr!
*perfformiad yn Saesneg
Cast:
Ioan Hefin – Dafydd
Geraint Rhys Edwards - Barry
Seren Sandham Davies - Gloria
Phylip Harries - Dai
Ieuan Rhys – Brian
Gillian Elisa - Vera
Sara Harris-Davies - Rita
Joey Hickman - Haydn
Rachael Garnett - Mandy
Cyfarwyddwr:
Richard Cheshire