Mae ARA DEG yn dychwelyd eleni gyda chyfres o ddigwyddiadau ym Methesda, Gwynedd. Yn cynnwys perfformiadau gan Das Koolies, Bill Ryder-Jones, Strawberry Guy, Gruff Rhys, Merched Lloerig, Fflapogram, Don Leisure, Andy Votel a mwy rhwng 22 – 24 Awst. Mae ARA DEG yn gywaith Neuadd Ogwen, Gruff Rhys a phwyllgor anffurfiol o drigolion y fro.
Dywedodd Dilwyn Llwyd o Neuadd Ogwen:
“Mae ARA DEG yn rhan hollbwysig o raglennu'r Neuadd ers chwe blynedd bellach. Mae hi'n wych cynnal gŵyl cerddoriaeth hefo artistiaid blaenllaw o Gymru a thu hwnt i’r Neuadd yn Neuadd Ogwen, wedi ei curadu mewn cydweithrediad â Gruff Rhys. Eleni, mae'r lein-yp mor gyffrous ac amrywiol a 'da ni'n edrych ymlaen croesawu cynulleidfaoedd i Fethesda i'w fwynhau!”
Ar y Nos Iau 22 Awst, daw Das Koolies, sy’n cynnwys Bunf, Cian, Daf a Guto o’r Super Furry Animals a’u cynhyrchiad hynod i Neuadd Ogwen. Yn cyfuno Tecno, offerynnau byw a delweddau fideo mentrus - bydd hon yn noson fythgofiadwy.
Bydd y ddeuawd ambient Group Listening o Dregarth a Phenclawdd yn agor y noson ar y nos Iau.
Ar nos Wener 23 Awst, daw Bill Ryder-Jones a’i albwm newydd Iechyd Da! i Neuadd Ogwen. Mae’r albwm hon yn cael ei ystyried fel un o recordiau hir gorau’r flwyddyn, a’r teitl wedi ei ysbrydoli yn rhannol gan y gân o’r un enw gan Gorky’s Zygotic Mynci.
Mae diwrnod llawn ar Ddydd Sadwrn 24 Awst, yn dechrau gyda ffair recordiau a dangosiad ffilm Pandora’s Box yn y bore yn y neuadd, wedi ei ddilyn gan set Strawberry Guy, yr artist o Gymru sy’n phenomenon TikTok fyd-eang, yng Nghapel Jerwsalem.
Fydd teyrnged arbennig i Emyr Glyn Williams ar y Dydd Sadwrn, sef un o sylfaenwyr recordiau Ankst a gwneithuriwr ffilm a fu’n gefnogwr brwd o’r ŵyl. Bydd hyn yn cynnwys setiau teyrnged (wedi eu guradu gan Alan Holmes) gan Fflapogram sy’n cynnwys aelodau’r grwpiau cwlt Ectogram a Fflaps, Grŵp Pat Morgan o Datblygu; Merched Lloerig a set gan Gruff Rhys a grŵp Sadness Sets Me Free.
I orffen y Dydd Sadwrn, fydd set gan y DJ’s Andy Votel a Don Leisure gyda churiadau rhyngwladol a dawnsio gwyllt.
Mwy o artistiaid a digwyddiadau i’w cyhoeddi.
Dywedodd Gruff Rhys:
“Un o rinweddau ARA DEG a’r rhesymeg dros yr enw ydi fod yna ddim bandiau yn clasho efo’i gilydd. Mae digon amser i bawb fedru mwynhau a dadansoddi artist heb fod yn rhedeg i weld y peth nesa.”