100 MLYNEDD YN DDIWEDDARACH DYMA GYD GYNHYRCHIAD NEWYDD A HERIOL SY’N ARCHWILIO’R DICTER A’R ATGASEDD AT ‘ATGOF’; CERDD GAN PROSSER RHYS A GIPIODD Y GORON YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YM 1924.
“Mwy addas i Sodom a Gomorrah na Chymru”. “Budr!”.
Dim ond dau o’r ymatebion a argraffwyd yn y wasg yng Nghymru yn dilyn cyheoddi’r gerdd ‘Atgof’, gan y bardd, newyddiadurwr a chyhoeddwr Edward Prosser Rhys, a gipiodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-Pwl ym 1924.
Mae ‘Atgof’ yn rhannu argraffiadau ac atgofion dyn ifanc o chwant, cariad a gwrywgydiaeth. Er iddo blesio beirniaid y goron, fe wylltiodd y gymdeithas ar y pryd ac fe arweiniodd at bla o ddicter wrth iddynt ymateb i’r themâu rhywiol a’r gwrywgydiaeth.
I nodi canrif ers cyhoeddi ‘Atgof’, mae Music Theatre Wales, Sinfonia Cymru a Music@Aber, wedi cyd gynhyrchu perfformiad pwerus 45 munud o hyd, wedi’i gomisiynu mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru yn profi gwledd bythgofiadwy a heriol yn cynnwys; monodrama verbatim operatig, wedi’i chyfansoddi gan Conor Mitchell a’i pherfformio gan y tenor Elgan Llŷr Thomas, dehongliad ymarferol a deinamig o’r gerdd gan Eddie Ladd, cerddoriaeth cerddorfaol gan gerddorion Sinfonia Cymru, cynllun sain dirdynnol Sion Orgon a ffilmiau archif o’r cyfnod. Bydd y gwaith pwerus hwn yn gyfle i’r gynulleidfa ail ymweld â’r gerdd enwog, ystyried y dicter ar y pryd a chwestiynu sut mae gwaith newydd fel ‘Atgof’ sy’n herio’r ‘norm’ mewn cymdeithas, yn cael ei dderbyn yn y Gymru fodern.
Meddai Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Music Theatre Wales’, “Dwi’n edmygu gwaith Conor Mitchell ac Eddie Ladd ers blynyddoedd, gwych yw cael cyflwyno’i gwaith ochr yn ochr yn y darn cyfoes hwn sy’n herio’r gynulleidfa – darn Cymraeg sy’n siarad â’r gymdeithas gyfan, yn cwestiynu diwylliant heddiw. Mae MTW yn archwilio pŵer a gallu opera fel perfformiad cyfoes, pa ffordd well o wneud hyn na chomisiynu darn sy’n cyfuno theatr ymarferol a monolog operatig? Dw i wrth fy modd yn cael gweithio gyda Sinfonia Cymru a Music@Aber fel rhan o’r comisiwn hwn gan yr Eisteddfod.”
Meddai Caroline Tress, Prif weithredwr Sinfonia Cymru; “Ry’n ni mor fach o gydweithio gyda Music Theatre Wales, Music@Aber a’r Eisteddfod Genedlaethol ar y sioe newydd a phwerus hon. Fel artistiaid ac fel unigolion, mae’n hanfodol bod ganddom hawl i rannu ein hunaniaeth trwy gerddoriaeth a chelf, heb ofni rhagfarn. Yn hanesyddol, mae’r celfyddydau a cherddoriaeth wedi bod yn arf pwerus wrth herio rhagfarn ac anghyfiawnder. Mae Bwystfilod Aflan – Unclean Beasts yn gyfle i’n cerddorion ifanc ni i archwilio treftadaeth Cymru, ac archwilio sut gallwn ddefnyddio ein cerddoriaeth fel dull i brotestio a newid cymdeithas, a hynny mewn ffordd sy’n herio ac yn hudo’r gynulleidfa”.
Meddai’r Arweinydd Iwan Teifion Davies o Music@Aber; “Mae cyd gomisiynnu a chynhyrchu gwaith operatig yn fenter newydd a chyffrous inni yn Music@Aber, ond un sy’n cyd fynd â’n lleoliad ni yn Aberystwyth; cartref cerddoriaeth Cymraeg – cafodd premiere yr opera Gymraeg gyntaf ei llwyfannu yma yn Aber ym 1878. Dwi mor hapus bod Music@Aber yn chwarae rhan wrth greu gwaith bold a newydd fel hyn, ac yn cydweithio gyda sefydliadau Cymreig, ac yn dangos bod yr iaith Gymraeg yn gallu cael ei defnyddio i greu gwaith theatr cerddorol blaengar, dyfeisgar a soffistigedig, gyda chyrhaeddiad rhyngwladol.”
Bydd Bwystfilod Aflan – Unclean Beasts yn cael ei berfformio yn y lleoliadau canlynol, tocynnau ar werth nawr trwy’r swyddfeydd tocynnau unigol.
- Dydd Mercher 9 Hydref am 19:30, Theatr y Sherman, Caerdydd
- Dydd Gwener 11 Hydref am 19:30, Theatr y Byd Bach, Aberteifi
- Dydd Mercher 16 Hydref am 20:00, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
- Dydd Iau 17 Hydref am 19:30, Tŷ Pawb, Wrecsam.