Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig 6 bwrsariaeth sy’n talu am gost lawn Cynhadledd AMA 2024 — gyda 3 ohonynt ar gyfer sefydliadau bach /gweithwyr llawrydd yn unig.

Fel rhan o’r cynnig bwrsariaeth, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn talu hyd at £200 tuag at ffioedd llety a theithio. 

Mae ceisiadau ar agor i aelodau o AMA a rhai nad ydynt yn aelodau ond sy’n gweithio i sefydliadau ar draws y sector diwylliannol. 

Rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r meini prawf canlynol. 

Meini prawf:   

  • Mae’n rhaid i ymgeiswyr unigol fod yn gweithio fel gweithiwr celfyddydol llawrydd yng Nghymru neu mewn sefydliad celfyddydol sydd yng Nghymru

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 3 Mai am 12pm