Mae'r farchnad codi arian yn lle dyrys ac nid yw’r pandemig wedi helpu dim.
Gyda'r Ganolfan Reolaeth rydym ni’n falch o gynnig 2 fwrsariaeth i godwyr arian yng Nghymru i fynd i’w Hysgol Codi Arian Celfyddydol ar-lein ym Mai a Mehefin. Mae'r ysgol enwog yn archwilio sawl strategaeth a thacteg i godi arian oddi wrth ymddiriedolaethau, sefydliadau, busnesau ac unigolion – a llawer rhagor.
https://www.nationalartsfundraisingschool.com/how-we-help/online-programme/
Rhaid ichi fynd i bob dyddiad:
Llun 17 a Mawrth 18 Mai
Llun 24 a Mawrth 25 Mai
Mawrth 1 ac Iau 3 Mehefin
Llun 7 a Mawrth 8 Mehefin
Oherwydd y pandemig, eleni bydd yr ysgol ar-lein ac felly byddwn ni hefyd yn talu costau llawn y lleoliadau (£1,200 a TAW).
Rhaid i'r unigolyn sy’n mynd wneud y cais. Mae'n agored i godwyr arian cyflogedig a gweithwyr llawrydd. Rydym ni’n targedu’r rhai na allent fynd fel arall.
Rhaid bodloni'r meini prawf:
- bod yn gweithio yng Nghymru a bod ynghlwm wrth godi arian proffesiynol i’r celfyddydau
- heb fynd i’r ysgol o'r blaen
- ymrwymo i fynd i bob dyddiad
- os ydych chi’n gyflogedig, rhaid i’ch cyflogwr gefnogi eich cais
Meini prawf dewis:
- y cyfraniad y bydd yr ysgol yn ei wneud i'ch datblygiad proffesiynol
- y gwahaniaeth y bydd yr ysgol yn ei wneud i chi a'ch sefydliad/prosiect
- ymrwymiad i godi arian i gelfyddydau Cymru a rhannu'r gwersi o’r ysgol â’r sector
- rhai na allent fynd fel arall
Dyddiad cau: 5pm, Llun 19 Ebrill
Byddwn ni’n rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ar (neu cyn) dydd Gwener 30 Ebrill. Ond ni allwn roi adborth unigol am geisiadau