... nid ar gyfer y cyfoethog neu’r etholedig rai, ond ar gyfer y ddynoliaeth gyfan!
Mae tymor The Shape of Things to Come yn parhau’r wythnos hon gyda THIS MUSEUM IS A SPACESHIP, lle mae mae curadur dienw yn cynnig cyflwyniad egnïol, brawychus i’r arteffactau llychlyd mewn amgueddfa, sydd wedi mynd yn angof bron.
Ceir blwch o dapiau, taflunydd syml… hen bethau sy’n gyfrwng i dechnolegau anghredadwy. A hwnnw’n rhannol yn ddarlith, yn llyfr llafar, ac yn wibdaith y tu hwnt i’r dychymyg torfol, mae’r perfformiad hwn yn gosod syniadau’r avant-garde Rwsiaidd o’r 19eg ganrif yng nghyd-destun ein pryderon byd-eang a phersonol presennol. Tra bo’r cnwd presennol o ‘ddyfodolwyr’ sy’n filiwnyddion, sef ‘tech-bros’ cymuned dechnegol Silicon Valley, yn siarad yn nhermau gwneud elw ac imperialaeth rhyngblanedol, roedd Cosmaethwyr Rwsia yn siarad am anfarwoldeb, atgyfodiad i bawb, rhyddid llwyr i deithio mewn gofod byd-eang! Yr arddangosyn terfynol? Yr amgueddfa ei hun, wrth i’n curadur geisio harneisio gormodedd o ynni solar i’n rhyddhau i archwilio cylchdroeon mwy radical ar hyd a lled y bydysawd.
Mae’r darn yn cael ei greu a’i berfformio gan CHRISTOPHER ELSON, actor Cymreig a oedd wedi’i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bu’n gweithio ym myd theatr, teledu a ffilm. Yn flaenorol, bu’n astudio’r gwyddorau naturiol, ac mae o’n treulio ei amser ar hyn o bryd yn darllen gwaith Rwsiaid ecsentrig.
THIS MUSEUM IS A SPACESHIP yw’r trydydd perfformiad yn The Shape of Things to Come 2024, rhaglen o berfformiadau byr gwreiddiol newydd sbon a gomisiynwyd gan Volcano gan wneuthurwyr theatr llawrydd a pherfformwyr yng Nghymru a thu hwnt. Mae pob un o'r perfformiadau tua 30 munud o hyd.
Mae'r sioeau yn y gyfres hon i gyd yn wahanol iawn. Yr hyn sy’n cysylltu’r gweithiau amrywiol hyn yw eu bod i gyd yn edrych tua’r dyfodol – gan ddychmygu posibiliadau newydd ac archwilio ffyrdd eraill o fod. Wythnos nesaf bydd LUKE HEREFORD yn perfformio PERFECT PLACES, cerdd theatrig ynghylch yr ymgais i chwilio am yr ymdeimlad o berthyn o safbwynt cwiar, mewn mannau cwiar.