Bore coffi nesaf Gwybodfan Celf y DU yw:
9:30yb amser y DU | 10 Rhagfyr 2024
Pwnc:
Cyflwyniad i ATA Carnet
Cyfranwyr gwadd nesaf yw:
Karen Pitfield, goruchwyliwr carnet o Siambr Fasnach Llundain
Ydych chi’n bwriadu symud propiau, offer, neu waith celf ar draws ffiniau gan ddefnyddio ATA Carnet, ond yn teimlo’n ansicr ble i ddechrau? Neu efallai eich bod eisoes yn defnyddio un ac eisiau symleiddio’r broses?
Gan nad yw’r DU bellach yn rhan o’r UE, mae cludo nwyddau rhwng y DU a’r UE bellach yn golygu gwiriadau tollau, rheolaethau ffiniau, a threthiant posibl. Mae ATA Carnets yn darparu ffordd symlach, gost-effeithiol o symud nwyddau dros dro ar draws ffiniau rhyngwladol i dros 80 o wledydd sy’n cymryd rhan yng nghynllun ATA Carnet. Ymunwch a ni am sesiwn gynhwysfawr sy’n egluro’r broses ac yn eich helpu i ddeall y newidiadau hyn yn hyderus.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Pryd a pham i ddefnyddio ATA Carnet: Deall ei wir ddiben a’r holl fanteision sy’n gysylltiedig â’r ddogfen.
Ystyriaethau allweddol cyn gwneud cais: Dysgwch am gostau, sut i ddefnyddio’r ddogfennaeth, a chamau gweinyddol i wneud cais am un.
Canllawiau ymarferol ar gyfer croesi ffiniau: Beth i'w ddisgwyl, sut i baratoi a sut i brosesu’r a chydymffurfio’r carnet.
Mewnwelediad Arbenigwr:
Bydd Karen Pitfield, Goruchwyliwr Carnet yn Siambr Fasnach Llundain, yn rhoi cyflwyniad clir, gweithredadwy i ATA Carnets. Gyda dros 13 mlynedd o brofiad o roi ATA Carnets, gyda’r prif ffocws ar artistiaid o’r DU, bydd Karen hefyd yn mynd i'r afael â chwestiynau ehangach am brosesau gwrthdroi ac yn arwain mynychwyr at adnoddau defnyddiol ar gyfer senarios cymleth. Siambr Fasnach Llundain sy’n darparu’r mwyaf o ATA Carnets nid yn unig yn y DU, ond hefyd yn y byd, felly mae’r wybodaeth sydd gan y sefydliad hwn yn amhrisiadwy i'r rhai bydd yn mynychu’r sesiwn yma.
Bydd y sesiwn yn ddelfrydol ar gyfer:
Artistiaid, perfformwyr a sefydliadau creadigol o’r DU sy’n ystyried neu’n defnyddio ATA Carnets.
Rhai sy’n ceisio mireinio eu dealltwriaeth neu rannu eu profiadau.
Danfonwch unrhyw gwestiynau sydd gennych ar y pwnc hwn ymlaen llaw dwy’r ffurflen gofrestru ar-lein neu drwy e-bostio infopoint@wai.org.uk yn uniongyrchol. Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn.
Bydd y sesiwn yma yn cael ei recordio a bydd adnoddau yn cael eu rhannu ar ein gwefan a thrwy ein cylchlythyr yn dilyn y bore coffi.