Bore coffi nesaf Gwybodfan Celf y DU yw:
2:00yp BST | 07 Hydref 2024
Pwnc:
System Awdurdodiad Teithio Electronig y DU
Cyfranwyr gwadd nesaf yw:
Tîm Ymgysylltu Allanol, Ffiniau’r Dyfodol a System Mewnfudo, Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU
Ydych chi’n deall sut mae system Awdurdodiad Teithio Electronig (ETA) y DU yn gweithio a fel y bydd yn effeithio eich cynlluniau i ymweld â’r DU?
Fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth i gryfhau a digideiddio ffin y DU, mae llywodraeth y DU wedi lansio cynllun Awdurdodi Teithio Electronig (ETA) sydd nawr yn paratoi i lansio’r 2 ran olaf.
Erbyn Ebrill 2025 bydd rhaid i unigolion o bob cenedl ble mae gofyn iddynt wneud cais am ETA’r DU gael un yn barod i deithio i'r DU. Mae’r rhestr o genhedloedd sy’n cael eu heffeithio gan ETA I'w gweld yma ac maent yn cynnwys ymwelwyr Ewropeaidd. Mae hwn yn newid sylweddol i lawer o deithwyr a oedd yn flaenorol wedi gallu croesi ffin y DU heb ryngweithio gyda’r Swyddfa Gartref cyn teithio.
Yn y sesiwn yma bydd swyddogion Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU yn ymuno â ni i roi trosolwg o’r cynllun, ar bwy y mae’n effeithio, sut y bydd yn gweithio, ac yna cyfle i ofyn cwestiynau.
Bydd system ETA yn berthnasol i ymwelwyr â’r DU nad oes angen fisa arnynt ar gyfer arosiadau o lain a chwe mis, neu nad oes ganddynt statws mewnfudo dilys yn y DU cyn teithio. Bydd angen ETAs hefyd ar rai sy’n ceisio mynediad o dan y consesiwn gweithiwr creadigol Haen 5 cyn iddynt deithio i’r DU.
Mae can un cynllun ETA eisioed wedi agor i ddinasyddion o Bahrain, Kuwait, Oman, Qatar, Saudi Arabia a’r Emiraethau Arabaidd Unedig. Bydd yr ail gam yn agor ar gyfer ceisiadau ar 27ain o Dachwedd 2024 i'w ddefnyddio o’r 8fed o Ionawr 2025. Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o wlefydd a gyflwynwyd i'r cynllun yn rhan o cam 2 yma. Bydd y trydydd cam, y cam olaf, yn agor ar gyfer ceisiadau o’r 5ed o Fawrth 2025 i'w ddefnyddio o’r 2il o Ebrill 2025, a gellir gweld rhestr lawn o’r gwladolion hynny yma.
Bydd y sesiwn yma’n ddefnyddiol i'r rhai sydd heb ymwybyddiaeth neu sydd ag ymwybyddiaeth gyfyngedig o’r cynllun ETA neu sydd eisiau gwybod am gam olaf cyflwyno’r cynllun. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i artistiaid sydd â chynlluniau ar y gweill yn y DU ac sydd eisiau gwybod pryd y bydd angen ETA arnynt a sut i ymgeisio.
Os na allwch fynychu ein bore coffi gyda thîm ETA peidiwch â phoeni gan y byddwn yn recordio’r sesiwn ac yn rhannu adnoddau ar ein gwefan. Mae tîm ETA hefyd yn cynnal sesiynau gwybodaeth ar-lein reolaidd sydd yn rhad ac am ddim i ymuno â nhw a gofyn cwestiynau. Gallwch ddod o hyd i fanylion am y sesiynau yma ar wefan Gwybodfan Celf y DU