DATGANIAD I’R WASG – 18/06/2024

Bill Ryder-Jones, Fabiana Palladino a Georgia Ruth ymhlith yr actau cyntaf i’w cyhoeddi ar gyfer Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi 2024 

· 31ain Hydref - 2il Tachwedd 2024 

· Yn fyw ac ar-lein o Orllewin Cymru

· 90+ o berfformiadau ar draws y penwythnos 

· Bandiau arddwrn pris cynnar am £35 yn unig am dridiau o gerddoriaeth, trafod a syniadau

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi wedi datgelu’r don gyntaf o actau byw anhygoel a fydd yn ymddangos ar lwyfannau’r ŵyl o 31 Hydref – 2 Tachwedd.
 

Bydd y pumed ŵyl Wyddelig-Gymreig yn cynnwys Bill Ryder-Jones, cyfansoddwr caneuon clodwiw, cynhyrchydd cerddoriaeth a chyd-sylfaenydd The Coral y mae ei LP diweddaraf, Iechyd Da, yn eistedd ar frig albymau’r flwyddyn Metacritic hyd yn hyn; Enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac enwebai Gwobr Werin BBC 2 Georgia Ruth, y mae ei chaneuon yn rhychwantu Americana eang i faledi gwerin ag arnynt ddylanwad y 60au; a Fabiana Palladino a’i seiniau gwych ag arnynt rywfaint o naws yr 80au, y mae ei halbwm cyntaf o’r un enw wedi derbyn sêl bendith y Guardian fel un o'r goreuon yn 2024. Dyma’r tair prif act gyntaf i’w cyhoeddi eleni, a bydd pob un ohonynt yn rhoi perfformiadau byw agos atoch i’r rheiny sy’n ddigon ffodus i ennill tocynnau i Eglwys y Santes Fair. 

Gyda’r darlledwr enwog o’r BBC Huw Stephens yn cyflwyno, caiff y prif berfformiadau eu darlledu’n fyw i’r byd yn rhad ac am ddim drwy sianel YouTube Other Voices a’u ffrydio ar yr un pryd i sgrin sinema yn y Mwldan. Bydd cynnwys unigryw o'r penwythnos yn cael ei ffilmio i'w ddarlledu nes ymlaen ar RTÉ.

 

Cynhelir dros 90 o setiau byw ar draws tref fywiog Aberteifi fel rhan o’r Llwybr Cerdd eleni, sy’n edrych yn debyg o fod yn un o’r goreuon hyd yn hyn, gan gynnwys rhestr eclectig o’r talentau newydd gorau a mwyaf disglair o Gymru, Iwerddon a thu hwnt. Cynhelir yr ŵyl eleni mewn 11 o leoliadau ar draws y dref gan gynnwys lleoliad gig newydd sbon ar gyfer 2024; Capel Bethania hanesyddol yn Stryd Wiliam, Aberteifi.

 

Gyda mwy o artistiaid eto i'w cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, bydd y Llwybr Cerdd 2024 yn cynnwys:

 

ADJUA | Big Sleep | Chubby Cat | Cynefin | David Kitt | Don Leisure | Dug | Eoghan O'Ceannabhain | Filmore! | girlfriend. | Lila Zing | Lleuwen | Megan Nic Ruairí | Melin Melyn | Minas | Minas presents Niques, Em Koko & Po Griff | Morgana | Mr Phormula | New Jackson | Niamh Bury | OLIVE HATAKE | Otto Aday | PARCS | People & Other Diseases | Phil Kieran | Rona Mac | Sage Todz | Search Results | Skunkadelic | Slate | Tara Bandito | The Family Battenberg | The Gentle Good | Tiny Leaves | Virgins

Mae’r sesiynau Clebran yn dychwelyd i’r Mwldan, gan roi llwyfan i siaradwyr a meddylwyr blaenllaw ddod at ei gilydd i rannu syniadau, ysgogi sgwrs ac archwilio safbwyntiau ar faterion cyfoes, ochr yn ochr â pherfformiadau arbennig. Yn newydd ar gyfer 2024 bydd ‘Clebran ar hyd y Llwybr’, sef cyfres o sgyrsiau a gynhelir gyda cherddorion mewn lleoliadau ar draws y dref. Caiff fanylion llawn rhaglen Clebran eleni eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Mae bandiau arddwrn pris cynnar ar werth nawr am £35, gan godi i £50 ar 1af Gorffennaf. Bydd bandiau arddwrn yn rhoi mynediad anghyfyngedig i holl ddigwyddiadau’r Llwybr Cerdd a’r sesiynau Clebran ar draws pob un o’r tri diwrnod, yn ogystal â rhoi cyfle mewn raffl i ennill bandiau arddwrn mynediad y mae galw mawr amdanynt i’r prif berfformiadau yn Eglwys y Santes Fair. Fel pob amser, ni fydd tocynnau aur ar gyfer y perfformiadau ecsgliwsif yn yr Eglwys ar werth, a byddant ar gael yn unig drwy rafflau a chystadlaethau. Dilynwch @othervoiceslive a @theatrmwldan ar y cyfryngau cymdeithasol am gyfleoedd i ennill tocynnau.

 

 Mae manylion llawn am fandiau arddwrn yr ŵyl a ffrydio ar gael yn othervoices.ie

 

Dywed Philip King, sylfaenydd Other Voices:

“Rydyn ni wrth ein bodd yn dychwelyd i Aberteifi, a gweithio gyda’n partneriaid yn y Mwldan a Triongl i gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth ddyrchafol a sgwrs ysbrydoledig. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r ŵyl yn mynd o nerth i nerth, gan ddathlu’r diwylliant a rennir, cymunedau bywiog, a chysylltiadau parhaus sy'n rhwymo Iwerddon a Chymru. Fel yr amlinellwyd yn Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2021-25, mae Lleisiau Eraill a Clebran/Aberteifi yn chwarae rhan ganolog wrth feithrin cysylltiadau dyfnach ar draws pob agwedd ar ein perthynas â'n cymydog agosaf."

 

Dywed Dilwyn Davies, Prif Swyddog Gweithredu’r Mwldan:

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid gwych ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi 2024. Dyma ein pumed ŵyl yma ar arfordir gorllewinol Cymru, a bob blwyddyn mae ein teulu o gynulleidfa, artistiaid a siaradwyr yn tyfu’n fwy ac yn gryfach, wedi’u hysbrydoli gan y dathliad arbennig iawn rydyn ni’n ei rannu gyda’n ffrindiau o Iwerddon. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Lywodraethau Cymru ac Iwerddon am eu cefnogaeth barhaus, i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, i’n partneriaid darlledu, ac i’n partneriaid digwyddiad South Wind Blows a Triongl. A diolch arbennig hefyd i'n cynulleidfa a'n teulu o artistiaid anhygoel, na fyddai Lleisiau Eraill, hebddynt, yn bodoli.

 

 Llwyfannir Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, a chaiff ei chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl. Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ffyniant Bro a gefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion. Bydd Triongl yn ffilmio’r digwyddiad er mwyn ei ddarlledu nes ymlaen ar RTÉ.

 

____

 

DIWEDD/

 

Ar gyfer ymholiadau yn y DU cysylltwch â

Tamsin Davies: tamsin@mwldan.co.uk / 01239 623925

 

Ar gyfer ymholiadau yn Iwerddon cysylltwch â

Alannah McGhee: digital@southwindblows.ie / +353-85-716-2184

 

Lluniau cymeradwy i’r wasg:

 Lluniau cymeradwy ar gyfer Actau Eglwys y Santes Fair

https://www.dropbox.com/scl/fo/cyo80zlhvtaxbauhuqfwe/AOXb3ijrpTJnmLbtZ4eSo08?rlkey=irr2khttouo6ljjaymj22lrez&dl=0

 

  Lluniau cymeradwy ar gyfer Artistiaid y Llwybr Cerdd

https://www.dropbox.com/scl/fo/asjj4r4hgo18p5ibya1kg/AGwhJAzChJlwPNNqaWy3vC0?rlkey=cxqr8yw0h32fzpfqdyxqoloxu&dl=0

 

Uchafbwyntiau Lleisiau Eraill Aberteifi 2023:

https://www.youtube.com/watch?v=tYZ_O8JXS0M&t=16s

Cychwynnodd Other Voices fel digwyddiad cerddorol untro mewn eglwys fechan yn Dingle, pentref pysgota bychan yng ngorllewin Iwerddon a dros yr 23 mlynedd diwethaf mae’r syniad wedi tyfu. Erbyn hyn, mae Other Voices yn ddigwyddiad sefydlog yn y calendr cerddorol – digwyddiad sy’n ‘rhaid ei fynychu’ i berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Mae Other Voices wedi arwain at greu cyfres deledu gerddorol ryngwladol, ac wedi hynny fe ddatblygodd ffilmio’r gyfres honno yn ŵyl gerdd, a digwyddiad twristiaeth annibynnol sy’n dathlu’r lleol ar raddfa fyd-eang. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Other Voices wedi teithio i Lundain, Belfast, Efrog Newydd, Austin, Texas a Berlin.

 

Uchafbwyntiau Lleisiau Eraill:

 

Amy Winehouse: https://www.youtube.com/watch?v=a1xFsoRYrds

Hozier: https://www.youtube.com/watch?v=0_oGM2o2y0Y

Sam Fender: https://www.youtube.com/watch?v=bCrwhejbCxo

Fontaines D.C: https://www.youtube.com/watch?v=OigDCDM5_Qc 

The Murder Capital: https://www.youtube.com/watch?v=r19CdbbYQMk 

Sigrid: https://www.youtube.com/watch?v=m9jwHvfgMjE

         Young Fathers: https://www.youtube.com/watch?v=C01pXeWoGFk 

www.othervoices.ie

@othervoiceslive

 

Mwldan

Mae’r Mwldan yn Ganolfan Celfyddydau a sinema annibynnol a leolir yn Aberteifi. Mae'r ganolfan yn cyflwyno rhaglen fyw aml-gelfyddyd ac yn dangos tua 3000 o ffilmiau a darllediadau byw yn flynyddol. Mae’r Mwldan yn lleoliad cynhyrchu o bwys, mae’n gyfrifol am gydweithrediadau rhyngwladol fel Catrin Finch ac Aoife Ní Bhriain, ac mae hefyd yn cynhyrchu Digwyddiadau Haf Castell Aberteifi mewn partneriaeth â Chastell Aberteifi. Yn 2017, cychwynnodd y Mwldan y label recordiau bendigedig mewn partneriaeth â chynyrchiadau cerddorol ARC, gan weithredu model 360 gradd o reoli artistiaid, cynrychioli, cynhyrchu, rhyddhau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae gan y sefydliad, sy’n elusen a menter gymdeithasol gofrestredig nid-er-elw, drosiant blynyddol o £1.7 miliwn (cyn Covid) ac mae'n cyflogi tîm o 21 aelod staff.

www.mwldan.co.uk  | @TheatrMwldan

 

Triongl

Cwmni cynhyrchu Teledu a Ffilm yw Triongl a sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler ac Alec Spiteri gyda Gethin Scourfield yn ymuno â nhw yn 2018. Mae'r tri yn gynhyrchwyr profiadol gyda hanes o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel, gwobrwyedig. Byddant yn dogfennu ‘Other Voices/Lleisiau Eraill’ ar gyfer rhaglen arbennig awr o hyd i’w darlledu nes ymlaen ar RTÉ.

www.triongl.cymru | @triongl_tv