Tymor newydd Volcano o berfformiadau gwreiddiol byr, THE SHAPE OF THJINGS TO COME, yn dechrau wythnos nesaf gyda All We Knead gan Sean Wai Keung, profiad cymunedol o adrodd straeon a gwneud a phobi toes.
Crëwr perfformiadau a bardd sy'n byw yng Nglasgow yn yr Alban yw Sean. Mae'n aml yn defnyddio bwyd fel man cychwyn yn ei waith ar gyfer archwiliadau ar themâu cymysgedd, ymfudo a hunaniaeth.
Dysgodd e i goginio a bwyta gyda'i 婆婆 (nain), oedd yn rhedeg siop tecawê Tsieineaidd yn y Deyrnas Unedig yn yr 1960au. Wrth gymysgu blawd a dŵr i wneud toes bydd yn myfyrio ar hanesion ymfudo ei deulu, ar ei brofiadau fel person hil gymysg yn y Deyrnas Unedig, ac ar gwestiynau cysylltiedig â hunaniaeth, perthyn/amherthyn a diwylliant.
Y syniad y tu ôl i’r prosiect The Shape of Things to Come yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig.
Mae'r rhaglen yn parhau gyda phum darn arall trwy gydol Gorffennaf a dechrau Awst:
Ruth Berkoff | The Beauty of Being Herd | 6 - 8 Gorffennaf
Mae menyw yn penderfynu ffarwelio â bywyd cyffredin, a byw yn hytrach fel dafad.
Sara Hartel | Strike Limited | 20 - 22 Gorffennaf
A fyddwch chi'n cydweithio er budd y ddwy ochr ac yn herio'r rheolwyr ynteu a fyddwch chi'n dewis bradychu eich cyd-chwaraewyr mewn ymgais i roi hwb i'ch buddsoddiad eich hun ar draul pawb arall?
Rebecca Batala | Have You Seen This Girl? | 27 - 29 Gorffennaf
Mae mam yn chwilio am ei merch sydd wedi ei rhoi mewn gofal. Mae rhywbeth sy'n dechrau fel apêl am gymorth yn datblygu'n stori arswyd wrth i bethau gymryd tro goruwchnaturiol.
Aasiya Shah | I Did Not Just Waste My Life | 3-5 Awst
Daw Aasiya ag egni a chorfforoldeb y gampfa focsio i'r theatr. Ymunwn ag ymladdwr sy'n paratoi i wynebu ei gwrthwynebydd – nid gwrthwynebydd yn y cylch ond rhywun sydd wedi ei brifo yn ei bywyd.
Marianne Tuckman | The Rising Damp and Other Tails | 10 - 11 Awst
Cyfle i unigryw i gleient gael gweld rhai o'r mannau llai adnabyddus o fewn yr eiddo nodweddiadol hwn sydd ar werth am bris deniadol mewn lleoliad cyfleus ar Stryd Fawr Abertawe, yng nghwmni'r Gwerthwr Tai, Marianne Tuckman.