Bechgyn Ballet Cymru - yn dod a bechgyn a rhai sy’n huniaethu yn wryw, o ar draws Cymru sydd gydag angerdd am ballet at ei gilydd.

Mae Ballet Cymru yn gyffrous i gynnig cyfle newydd AM DDIM i fechgyn 8+ i ymuno Bechgyn Ballet Cymru

Bydd y fenter newydd sbon yma yn dechrau gyda phrosiect 2 diwrnod, yn Stiwdio Ballet Cymru, Rogerstone, Casnewydd ar ddydd Llun 12fed a dydd Mawrth yr 13eg o Chwefror. Bydd y diwrnodau yn rhedeg o 11yb - 3yh a bydd y gwersi yn cael eu harwain gan 3 dawnswyr proffesiynol gwrywaidd o Ballet Cymru, a bydd ein partneriaid anhygoel o Jukebox Collective a Chwmni Dawns Genedlaethol Cymru, yn arwain sesiynau Hip Hop a dawns Gyfoes.

Bydd y diwrnodau yn hwyl, atyniadol ac ar agor i bob lefel o brofiad - rydyn ni ond yn gofyn am lawer o frwdfrydedd ac egni!

Cysylltwch â Louise Prosser o Ballet Cymru i warchod eich lle.