Wrth i gyfyngiadau gwahanol gael eu rhoi ar waith ledled y Deyrnas Unedig, mae BBC Arts yn parhau â’i fenter Diwylliant mewn Cwarantin, sy’n anelu at gadw’r celfyddydau yng nghartrefi’r cyhoedd yn ystod y cyfyngiadau symud a chefnogi artistiaid ar adeg anodd wrth lansio cyfle comisiynu newydd i ddathlu gwaith artistiaid anabl. Sefydlwyd y llinyn mewn partneriaeth rhwng BBC Arts, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland ac mae’n rhan o’r tymor anabledd ehangach ar draws y BBC, sy’n nodi 25 mlynedd ers y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, gan gefnogi artistiaid anabl ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i gynhyrchu gweithiau newydd a fydd yn cael eu cynnal ar draws llwyfannau’r BBC.

    Gwahoddir artistiaid proffesiynol B/byddar, niwrowahanol ac anabl i wneud cais i gynhyrchu gwaith fideo neu sain newydd. Nod y gronfa yw comisiynu deg darn newydd o waith, gyda chefnogaeth arbenigwyr cynhyrchu digidol.

    Mae’r rhaglen gomisiynu newydd yn nodi 25 mlynedd ers pasio’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn gyfraith ar 8fed Tachwedd 1995. Mae’r llinyn rhaglennu wedi’i gynllunio i helpu artistiaid i gynhyrchu gwaith ar adeg mor heriol i’r celfyddydau, a phan fydd rhai o bosibl yn hunan-ynysu, gan gydnabod bod rhai pobl anabl yn cael eu hystyried gan weithwyr iechyd proffesiynol fel rhai sy’n ‘agored i niwed’ yng nghyswllt y cyflyrau meddygol sy’n gysylltiedig â Covid-19. Gall artistiaid – ond nid oes rhaid iddynt – greu gwaith sy’n ymateb i brofiad yr unigolyn anabl o fyw drwy’r pandemig. Bydd y llinyn comisiynu hefyd yn gweithio gyda Chynghrair Celfyddydau Anabledd y DU sy’n crynhoi lleisiau ymarferwyr creadigol B/byddar, niwrowahanol ac anabl a sefydliadau celfyddydau anabledd.

    Mae’r cyfle comisiynu newydd hwn yn adeiladu ar lwyddiant llinyn comisiynu artistiaid  BBC Arts Diwylliant mewn Cwarantin, a lansiwyd ym mis Ebrill 2020 gan BBC Arts a Chyngor Celfyddydau Lloegr, a oedd yn gwahodd artistiaid i roi ymateb creadigol i heriau’r cyfyngiadau symud. Cynhyrchwyd cyfanswm o 25 comisiwn, a lwyddodd i gyrraedd cynulleidfaoedd yn y miliynau ar draws llwyfannau cymdeithasol a’r BBC.

    Dywedodd Jonty Claypole, Cyfarwyddwr BBC Arts: 

    “Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn un o’r cerrig milltir pwysicaf o ran hawliau sifil yn hanes Prydain. I nodi’r pen-blwydd pwysig hwn, mae menter Diwylliant mewn Cwarantin y BBC yn ymuno â Chyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland i gomisiynu amrywiaeth o brosiectau ffilm a sain sy’n dathlu doniau artistiaid proffesiynol B/byddar, niwrowahanol ac anabl heddiw.  Mae hyn yn bwysicach nag erioed yn oes Covid-19 pan fo’r angen am warchod eithafol yn bygwth tawelu llawer o artistiaid anabl a fyddai fel arall yn cynhyrchu gwaith ar gyfer orielau a llwyfannau ledled y DU.”

    Dywedodd Diane Hebb, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru:
     

    “Y comisiynau yma yw’r mathau o gamau cadarnhaol sydd eu hangen arnom i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb cyfle y mae pobl anabl yn ei wynebu wrth ymgysylltu â’r celfyddydau fel artistiaid neu aelodau o’r gynulleidfa. Bydd ein cefnogaeth ni, ochr yn ochr â chefnogaeth partneriaid, yn galluogi artistiaid yng Nghymru i greu gwaith sy’n adlewyrchu ac yn dathlu eu profiad o fyw, gan gyrraedd ac ysbrydoli cynulleidfaoedd ymhell ac agos.”

    Bydd gwybodaeth am y cyfle comisiynu  ar gael o ddydd Llun 9fed Tachwedd, gyda’r broses ymgeisio hygyrch yn agor ar y diwrnod hwnnw.

    Dewisir comisiynau gan banel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o BBC Arts, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland a Chynghrair Celfyddydau Anabledd y DU. Disgwylir y bydd y gweithiau’n cael eu cynhyrchu rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mehefin 2021, ac y byddant yn cael eu darlledu ar lwyfannau’r BBC yn ddiweddarach yn 2021.

    Bydd y rhaglen yn cael ei rheoli gan yr asiantaeth cymorth digidol The Space mewn partneriaeth ag Unlimited, rhaglen gomisiynu ar gyfer y celfyddydau sy’n galluogi gwaith newydd gan artistiaid anabl i gyrraedd cynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.