Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, ymhlith tua 50 o artistiaid sydd wedi cyfrannu at wefan newydd sydd wedi’i hanelu at ddefnyddio pŵer adferol y celfyddydau i gefnogi staff y GIG a gofal cymdeithasol y gaeaf hwn.
Ymhlith mwy a mwy o dystiolaeth o’r effaith bositif y gall y celfyddydau ei chael ar iechyd a lles, cafodd ‘Cwtsh Creadigol’ ei greu gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel diolch wrth sector celfyddydau’r genedl i staff prysur y GIG a gofal cymdeithasol.
Drwy fideos byr, hygyrch sydd ar gael ar alw, mae artistiaid proffesiynol o bob rhan o Gymru wedi dod ag amrywiaeth o weithgareddau creadigol yn fyw – gan gynnwys barddoniaeth, jyglo, bît-bocsio, dawnsio a ffotograffiaeth – a gynlluniwyd i helpu staff iechyd a gofal i feddwl am rywbeth heblaw gwaith, i godi eu hysbryd ac i roi hwb i’w lles.
Gall gweithwyr iechyd a gofal ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar drwy farddoniaeth gyda Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa; lleihau straen a chael hwyl yn dysgu jyglo gyda Rhian Halford o Rhian Circus Cymru; mentro tu allan i wneud torchau, mandala ac obelisg i’r ardd gyda’r artist Helen Malia; neu ffotograffiaeth greadigol gyda Suzie Lark.
Mae Cwtsh Creadigol, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, yn rhan o raglen barhaus o waith partneriaeth ym maes y Celfyddydau ac Iechyd sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth o fanteision lles, sydd wedi’u profi, wrth gymryd rhan yn y celfyddydau.
Cafodd ei gynllunio drwy ymgynghori ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd o fewn pob Bwrdd Iechyd, yn ogystal â grwpiau ffocws gyda gweithwyr gofal iechyd.
Dywedodd Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Lles, Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae’r Cwtsh Creadigol yn ymateb uniongyrchol i’r heriau a’r pwysau sylweddol y mae staff gofal iechyd yn parhau i’w hwynebu. Bwriad y Cwtsh yw defnyddio creadigrwydd i roi hwb i les staff drwy gynnig cysur, hwyl, tynnu meddwl rhywun wrth rywbeth, diddanwch, cyfle i ymlacio, anogaeth, ffordd o fynegi yn ogystal â chyfleoedd i bobl ddysgu sgil newydd.”
“Rydyn ni wedi ceisio creu adnodd sydd mor anhygoel â’r staff, a bydd y cynnwys yn esblygu ac yn cael ei ddiweddaru mewn ymateb i adborth staff. Gobeithio y bydd amrywiaeth eang o bobl sy'n gweithio o fewn gofal iechyd yn mwynhau darganfod eu creadigrwydd eu hunain drwy'r Cwtsh Creadigol.”
Gellir cael mynediad at y Cwtsh Creadigol fan hyn: http://cwtshcreadigol.cymru
Mae wedi’i gymeradwyo hefyd gan AaGIC a gellir ei weld ar adran iechyd a lles eu gwefan.
DIWEDD 3 Hydref 2022