Fis Tachwedd eleni mae Glan yr Afon yn falch iawn o groesawu Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn ôl i'r llwyfan gyda sioe Driphlyg yn arddangos a dathlu dawnswyr ifanc mewn noson ysblennydd o'r dawnsio gorau.

Albwm eiconig Cerys Matthews o ganeuon gwerin Cymraeg yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer TIR, gyda choreograffwyr Ballet Cymru Darius James OBE ac Amy Doughty yn defnyddio 11 o'r caneuon o'r albwm i greu gwaith unigryw, yn arbennig i ddawnswyr Ballet Cymru.

Bydd y nodedig o Gymru Cerys Matthews yn perfformio'r gerddoriaeth o'i halbwm TIR yn fyw yng Nglan yr Afon ar gyfer y ddwy sioe ar nos Wener 3 a nos Sadwrn 4 Tachwedd, yn yr hyn y mae sôn y bydd ei pherfformiadau cerddorol byw olaf erioed.

Yn y sioe Driphlyg hon, bydd ensemble Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn dangos gwaith newydd am y tro cyntaf, Twenty Tales gan y coreograffydd arobryn Mario Bermúdez Gil.

Mae DGIC yn darparu cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o'r radd flaenaf i rai o ddawnswyr ifanc mwyaf talentog Cymru. Maen nhw'n tynnu ar egni a chyffro brwdfrydedd pobl ifanc dros ddawns a dawnsio, a'i sianelu'n rym creadigol, cyfoes sy'n dathlu'r ddawns ieuenctid orau yng Nghymru heddiw.

Mae Coreograffydd Preswyl Ballet Cymru Marcus J Willis hefyd yn cyflwyno’i waith coreograffi wedi’i ail-ddychmygu, Stream of Consciousness, a ddangoswyd am y tro cyntaf gan Ailey II yn 2016. Mae Stream of Consciousness yn rhoi bywyd corfforol i'n meddyliau mewnol. Mae Willis yn gwau chwe ystum syml i mewn i'r 'nant', y monolog cythryblus ym meddwl pob person. Mae'r gwaith hwn wedi'i osod i ail-ddychmygiad cyfoes Max Richter o Four Seasons gan Vivaldi, ac yn adleisio tyndra ac ing llanw a thrai cyfnewidiol y gerddoriaeth.

Yn ychwanegol at y thema hon, bydd Willis hefyd yn dod â'i greadigaeth unigol glodfawr, Beyond Reach i repertoire Ballet Cymru. Mae’r unawd bythol hwn yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed, ac yn cyfleu eiliad o fyfyrio, gan gynrychioli taith barhaus bywyd unigolyn. Daw’r cynnil ynghyd â’r ysgytwol wrth gwrdd â’ch hun yn yr unawd agos hon a sgoriwyd gyda cherddoriaeth gan Franz Schubert.

Mae tocynnau ar gyfer y noson ddawns anhygoel ac unigryw hon ar gael nawr yn newportlive.co.uk/Performances, neu drwy ffonio 01633 656757.