Mae Bale Gŵyl Aberhonddu yn elusen gofrestredig, wedi'i lleoli yn Theatr Brycheiniog, ac mae’n bodoli i ddod â dawns broffesiynol o safon uchel i Aberhonddu, wrth hefyd ddarparu cyfleoedd i'r gymuned leol gymryd rhan. Mae ein cynhyrchiad blynyddol o The Nutcracker bellach yn ffefryn rheolaidd adeg y Nadolig ac yn denu llawer o bobl i Aberhonddu bob mis Rhagfyr.
Eleni, am y tro cyntaf, mae Bale Gŵyl Aberhonddu yn cyflwyno cynhyrchiad yn y gwanwyn, gyda thri pherfformiad ar benwythnos 6 - 7 Ebrill. Mae'r sioe ddwbl hon o fale yn cynnwys Act 2 o Swan Lake a'n bale Cymreig newydd, Tanio'r Ddraig, gan ddod ag 20 o ddawnswyr bale proffesiynol ynghyd (gan gynnwys 7 o Gymru a 4 a hyfforddodd yn Aberhonddu yn wreiddiol) gyda 32 o fyfyrwyr bale talentog lleol. Mae Swan Lake yn fale clasurol, traddodiadol, adnabyddus sydd wedi'i gosod i gerddoriaeth enwog a phrydferth Tchaikovsky ac yn cynnwys stori drist tywysoges sydd wedi ei melltithio i gymryd ffurf alarch yn ystod y dydd, gan ddychwelyd i ffurf ddynol gyda'r nos yn unig. Mae Act 2 o'r bale hwn hefyd yn enwog am goreograffi hardd y "corps de ballet", gyda 16 ‘alarch’ yn symud yn hudolus fel un. Yn wahanol i'r clasur hwn, mae Tanio'r Ddraig yn fale newydd sbon i Gymru, sy'n cynnwys rhai o ganeuon traddodiadol mwyaf adnabyddus Cymru (megis Myfanwy, Gwŷr Harlech, Tros y Garreg a Sosban Fach), wedi’i ailddychmygu yn iaith dawns. Cysylltir y caneuon enwog hyn gan gyfansoddi gwreiddiol gan y pianydd lleol, Penny Hughes, sy'n chwarae'r bale yn fyw i gyd-fynd â'r dawnswyr ac mae'r cefndir yn gyfres o baentiadau gwreiddiol o olygfeydd lleol hardd gan yr artist o Aberhonddu, Phil Clark.
Yn y cynhyrchiad hwn, bydd prif rannau Odette, y Swan Queen a’r Ddraig Goch, yn cael eu dawnsio gan ddau ddawnsiwr proffesiynol gwych a phrofiadol, Natasha Trigg a Harlan Rust. Magwyd y ddau ddawnsiwr yn Aberhonddu ac fe gawson nhw eu hyfforddiant dawns cynnar yma, cyn mynd ymlaen i hyfforddiant llawn amser a gyrfaoedd proffesiynol rhyngwladol trawiadol.
Mae tocynnau'n gwerthu'n gyflym a gallwch archebu eich seddi yn y cnawd yn swyddfa docynnau Theatr Brycheiniog, drwy ffonio 01874 611 622 neu drwy ymweld â gwefan y theatr https://www.brycheiniog.co.uk/en/whats-on