Mae Azuka Oforka wedi ennill gwobr fawreddog yr Awdur Gorau yng Ngwobrau’r Debut The Stage 2024 (The Stage Debut Awards) am ei drama lawn gyntaf, The Women of Llanrumney, a gynhyrchwyd gan Theatr y Sherman yn gynharach eleni.

Gwobrau Debut The Stage yw’r unig wobrau sy'n ymroddedig i gydnabod talent theatr sydd newydd ymddangos, ledled y DU. Cyhoeddwyd yr enillwyr ddydd Sul 29 Medi yn Llundain.

Cafodd The Women of Llanrumney - drama hanesyddol ddinistriol wedi'i gosod ar blanhigfa siwgr Llanrhymni yn Jamaica yn y 18fed ganrif - ei chomisiynu gan Theatr y Sherman. Gwerthodd bob tocyn yn y theatr yng Nghaerdydd ym mis Mai 2024 a denodd y cynhyrchiad adolygiadau gwych (★★★★★ The Guardian).

Bydd y cynhyrchiad yn trosglwyddo i Stratford East ym mis Mawrth 2025 cyn ail rediad yn y Sherman (26 Ebrill-10 Mai 2025) i ateb y galw mawr. Aiff tocynnau ar gyfer ail rediad Theatr y Sherman ar werth heddiw (Iau 3 Hyd).

Mae Azuka yn gyn-fyfyriwr rhaglen Unheard Voices y Sherman ar gyfer awduron newydd, ac roedd yn un o ddau enillydd Gwobr Awdur Gorau yn y seremoni, ochr yn ochr â Sam Grabiner ar gyfer Boys on the Verge of Tears.

Dywedodd Azuka: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill yr Awdur Gorau yn y Stage Debut Awards am fy nrama gyntaf; buddugoliaeth na fyddai'n bosibl mewn unrhyw ffordd heb Theatr y Sherman.

“Mae’n anodd iawn i ddramodwyr newydd gael troed yn y drws yn y diwydiant hwn, felly rwy’n gwybod pa mor ffodus ydw i i gael fy hyrwyddo a’m mentora gan dîm anhygoel y Sherman. Mae’r holl brofiad hwn wedi teimlo fel breuddwyd.”

Roedd cydnabyddiaeth bellach nos Sul i artistiaid sydd wedi gweithio gyda Theatr y Sherman; enwebwyd yr actor Gareth John ar gyfer y wobr Perfformiwr Gorau mewn Drama am ei berfformiad yn Housemates gan Tim Green; cyd-gynhyrchiad Theatr y Sherman a Hijinx a lwyfannwyd ym mis Hydref 2023.