"Gwlad? Dwedai wrthoch chi beth mae gwlad yn golygu i mi..."
“A country? I'll tell you what a country means to me…”
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen (Awen) wedi cynhyrchu ei drama Gymraeg gyntaf 'Gwlad! Gwlad!' Bydd y ddrama yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn rhan o raglen Eisteddfod Genedlaethol Cymru dros yr haf yn YMa Pontypridd ar 4 a 5 Awst cyn teithio i Neuadd y Dref Maesteg dros y gwanwyn.
Mae 'Gwlad! Gwlad!' yn cael ei disgrifio fel 'gwrthdrawiad cyffrous o dir, cân, pobl ac amser ar daith swreal at wraidd cenedlaetholdeb', gan archwilio etifeddiaeth anthem genedlaethol Cymru drwy adrodd straeon episodig grymus, pryfoclyd ac, ar adegau, teimladwy, yn dod yn fyw drwy gymeriadau hanesyddol a ffuglennol.
Ysgrifennwyd y ddrama gan yr awdur arobryn Chris Harris, a’i chyfarwyddo gan Harvey Evans. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Stacey Blythe a chynhyrchwyd y ddrama gan Gynhyrchydd Creadigol Awen, Pedro Lloyd Gardiner. Bydd 'Gwlad! Gwlad!' yn cynnwys darpar weithwyr proffesiynol y celfyddydau perfformio o fenter hyfforddi Awen ar gyfer pobl ifanc 18 i 25 oed, Lansiad, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Chris Harris: “Nid drama hanesyddol yw ‘Gwlad! Gwlad!' ond ymateb comig tywyll i'n trafodaeth gymhleth ar wladgarwch, cenedlaetholdeb, arwyr a rhyfelwyr... gwagle dychmygol rhwng realiti a ffantasi. Fel awdur, mae gen i ddiddordeb bob amser yn y cwestiynau anghonfensiynol sy'n troi ein ffordd o feddwl ar ei ben. Mae 'Gwlad! Gwlad!' yn gofyn sut y gall un anthem gynrychioli gwlad gyfan. A yw'n dal i fod yn berthnasol? Ar ran pwy mae'n siarad?
"Mae'r ddrama yn cynrychioli'r meddylfryd episodig, dameidiog ac anhrefnus sy'n ffurfio natur ddigyswllt yr agenda genedlaetholgar, gan adleisio lleisiau'r gymuned y mae'n chwarae iddi, fel y gellir gwneud trefn o anhrefn...neu y gellir gwneud anhrefn o drefn, pa un bynnag sy'n cyrraedd y gynulleidfa yn gyntaf. Rwy'n llawn cyffro i ddod â'r stori swreal a gwefreiddiol hon yn fyw gyda'r cwmni anhygoel hwn o artistiaid."
Dywedodd Harvey Evans: "Fel cyfarwyddwr 'Gwlad! Gwlad!', fy ngweledigaeth greadigol yw creu profiad ymgolli sy'n herio syniadau confensiynol gwladgarwch a chenedlaetholdeb, tra hefyd yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru. Nod ein cast bach o bedwar yw mynd â'r gynulleidfa ar daith swreal sy'n eu hannog i fyfyrio ar gymhlethdodau hunaniaeth a pherthyn.
"Rwy'n angerddol am weithio gydag artistiaid ifanc ac wrth fy modd i gael cydweithio â Lansiad i ddarparu llwyfan i berfformwyr ifanc fireinio eu sgiliau a chael profiad gwerthfawr yn y diwydiant celfyddydau perfformio. Edrychaf ymlaen at weld yr unigolion hynod dalentog hyn yn tyfu ac yn ffynnu wrth iddynt ddod â'u hangerdd a'u hymroddiad i'r llwyfan."
Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: "Ysbrydolwyd y cysyniad ar gyfer 'Gwlad! Gwlad!' gan gysylltiad serendipaidd; ysgrifennwyd yr anthem ym Mhontypridd a'i pherfformio am y tro cyntaf ym Maesteg, y ddwy dref lle yr ymddiriedir ynddom i reoli theatrau ar ran ein partneriaid awdurdod lleol. Fel sefydliad sy'n falch o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru, mae'n fraint wirioneddol cael perfformio’r ddrama hon yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni. Rydym yn edrych ymlaen at glywed beth mae'r cynulleidfaoedd yn meddwl ohoni."
GALLWCH WYLIO 'GWLAD! GWLAD!' YN RHAN O'CH DIWRNOD YN YR EISTEDDFOD NEU DOCYN WYTHNOSOL: https://eisteddfod.cymru