Mae Audience Spectrum yn mynd ar daith mewn cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb am ddim ledled y DU.
Audience Spectrum yw’r adnodd targedu cynulleidfaoedd mwyaf effeithiol sy’n cael ei ddefnyddio amlaf yn y sector diwylliannol. Mae’n cael ei ddefnyddio gan gannoedd o raglenwyr, marchnatwyr, codwyr arian ac arbenigwyr ymgysylltu eraill i helpu sefydliadau i deilwra eu cynigion mewn ffordd sensitif a chymhellol i anghenion cynulleidfaoedd gwahanol. Gall Audience Spectrum eich helpu i gynyddu gwerthiant a chysylltu â chymunedau.
Ymunwch â ni i gael gwybod sut gallech chi wneud i Audience Spectrum weithio i’ch sefydliad – mewn gweithgarwch marchnata ac ymgysylltu â’r gynulleidfa o ddydd i ddydd a gwaith cynllunio strategol tymor hirach.
Os ydych chi’n newydd i Audience Spectrum, byddwch yn dysgu sut mae defnyddwyr arbenigol wedi bod yn harneisio pŵer adnoddau am ddim a gwasanaethau y telir amdanynt. Os ydych chi’n arbenigwr eich hun, dewch i weld y nodweddion newydd rydyn ni wedi’u cyflwyno a dweud wrthym beth hoffech chi ei weld nesaf.
Byddwn yn rhannu enghreifftiau o Audience Spectrum ar waith yn y byd go iawn, a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth i gymryd y camau ymarferol nesaf yn eich cyd-destun eich hun.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen Mewnwelediad i Gynulleidfaoedd Cymru.
Dyddiad: Dydd Mawrth 21 Tachwedd 1:30 PM - 5:00 PM
Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Market Road, Caerdydd CF5 1QE
Archebwch eich lle: https://www.tickettailor.com/events/theaudienceagency/1007573
Pwy:
Croeso i bawb.
Gall y sesiynau hyn fod o ddiddordeb arbennig i unrhyw un sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu cyfranogiad cynulleidfaoedd ar lawr gwlad, ymgyrchoedd marchnata mewn sefydliadau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi os ydych chi’n creu neu’n mireinio strategaeth datblygu cynulleidfa ar gyfer eich sefydliad.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:
Gobeithio y byddwch yn gadael y sesiwn hon gyda dealltwriaeth ddyfnach o’r Audience Spectrum fel adnodd segmentu, ond hefyd gydag ychydig o ysbrydoliaeth a syniadau ymarferol ynghylch sut y gallwch gymhwyso’r wybodaeth hon i’ch gwaith o ddydd i ddydd, ni waeth pa fath o sefydliad diwylliannol rydych chi’n gweithio iddo.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â chymheiriaid o bob rhan o’r sector a rhannu awgrymiadau a syniadau mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.
Fformat:
Bydd y sesiynau hanner diwrnod hyn yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb.
Yn gyntaf, bydd ein tîm yn cyflwyno segmentu fel cysyniad, Audience Spectrum yn benodol, cyn symud i adran gweithdy lle byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i feddwl sut gellid defnyddio Audience Spectrum ar lefel ymarferol.
Cost: Am ddim
Mynediad:
Mae modd gofyn am wasanaethau mynediad ar y ffurflen archebu a byddant yn cael eu darparu lle bo hynny’n bosibl. Archebwch cyn gynted ag y bo modd er mwyn caniatáu amser i wneud trefniadau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar events@theaudienceagency.org
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg, ond bydd cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu yn Gymraeg.