Ychydig dros flwyddyn yn ôl, penderfynais ymgeisio am swydd yr Asiant er Newid heb ddeall yn iawn beth oedd goblygiadau’r swydd. Roedd yn gyfnod yn fy mywyd oedd yn llawn amheuon, sinigiaeth ac ansicrwydd. Sut olwg fyddai ar fywyd ar ôl y brifysgol? Beth wnawn i am waith? Aros yng Nghymru neu symud i fyw? Dyma ychydig o’r cwestiynau a chwyrlïent fel niwl o’m blaen wrth i fywyd prifysgol araf ddod i ben. Dyna oedd yr unig gyfnod yn fy holl fywyd o bosibl fy mod wedi cloffi rhwng sawl meddwl. Nid oedd gennyf gyfeiriad clir i’m bywyd ragor ar ôl oes gyfan o wybod yn iawn lle’r elwn nesaf.
Catalydd a pharhad oedd ymgeisio am swydd yr Asiant er Newid o ran fy siwrnai a’m cyfeiriad a gychwynnodd yn 2020 gyda’m gwaith ar yr ymgyrch Mae Bywyd Pobl Dduon o Bwys yng Ngwent. Cefais brofiadau anarferol a’m synnai ac a’m newidiodd. Trawsnewidiwyd fy mywyd am byth. Nid oedd gennyf glem am yr hyn a olygai gweithio i sefydliad fel Cyngor Celfyddydau Cymru ac wrth gwrs roedd gennyf fy amheuon. Dwi bob amser yn amheus iawn o sefydliadau ond cefais fy atynnu at y posibiliadau o greu newid cymdeithasol go iawn ar lefel genedlaethol a hyd yn oed yn fyd-eang. Roedd y gobaith yna’n drech na’m hamheuon. Hefyd cefais groeso twymgalon gan staff y sefydliad a oedd yn help hefyd.
Mae ystyried y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu imi pa mor fawr yw’r swydd a hefyd faint dwi wedi ei ddysgu. Roedd yn fodd imi gysylltu â Chymru, ei chymunedau a’i hunigolion mewn ffyrdd newydd. Roedd modd imi fod yn rym er lles i'r rhai anghenus. Hyn a roes y boddhad mwyaf imi. Yn wir mae ehangder a dyfnder y gwaith yn anodd eu disgrifio mewn geiriau. Dwi wedi bod ynghlwm wrth bopeth bron yn y sefydliad – pob cynllun ariannu, pob partneriaeth gyda sefydliadau ledled Cymru, pob meddwl strategol, pob cynllun at y dyfodol. Bûm yn rhan o gannoedd o baneli a thrafodaethau, bûm yn sefydlu gwahanol fforymau i sicrhau cyfathrebu iach a thryloyw, bûm yn cysylltu â'r sector ac â chymunedau. A dim ond ychydig o’r pentwr anferth o waith a gyflawnais yw hyn. Mae gwaith y Cyngor yn eang iawn ac mae fy swydd yn cynnwys yr ehangder yna. Yn bwysicach, mae’n cynnwys maint y newid sydd ei angen os bydd y sector, ein cymdeithas a Chymru yn decach a mwy cyfiawn.
Pan ofynna pobl beth dwi’n ei wneud, dwi o hyd yn ei chael yn anodd rhoi ateb. Datryswr problemau creadigol ydw i mewn sefyllfa sydd angen dewrder, creadigrwydd a ffyrdd newydd o feddwl. Nid yw creu newid yn hawdd. Weithiau bydd pobl yn cloffi. Ond mae'n waith hollbwysig ac mae'n rhaid i rywun ei wneud, ni waeth am y gost. Dwi’n credu bod y celfyddydau’n gyfrwng trawsnewid ac ysbrydoli pobl ac yn ffordd iddynt ymfynegi. Dwi’n credu bod y celfyddydau yn gyfrwng creu newid a chyfiawnder cymdeithasol. Dwi’n credu hefyd ynom ni a hynny â’m holl galon. Cyn belled â fy mod yma o hyd a chyn belled y caf y cyfle, byddaf yn parhau i fod yn rym er ein lles. Byddaf yn parhau i gadw’r ffydd. Fy mlwyddyn gyntaf gyda’r Cyngor oedd dysgu sut i blannu fy nhraed yn gadarn ar dir anghyfarwydd. Bydd y blynyddoedd wedyn yn gyfle imi gynyddu ac ehangu fy ngwaith yn bersonol a gwaith y Cyngor a chyrraedd lefel hollol wahanol.