Hoffai’r Bale a’r Opera Brenhinol eich gwahodd i’n harwerthiant gwisgoedd yn Aberdâr ar 1 a 2 Chwefror 2025. Bydd yno filoedd o wisgoedd ar werth am gyn lleied â £1. 

Bydd dillad modern, gwisgoedd cyfnod, gwisgoedd ffansi, hetiau, ategolion, a gwisgoedd milwrol, ymhlith pethau eraill, ar gael – efallai y dewch chi o hyd i eitem gydag enw perfformiwr enwog ar y label!

Mae’r tocynnau’n rhad ac am ddim ond rhaid ichi eu harchebu gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Gwybodaeth bwysig

Mae hwn yn ddigwyddiad â thocyn gyda slotiau amser dwy awr dynodedig ar gyfer mynediad.

Cyrhaeddwch o leiaf 20 munud cyn eich slot amser rhag ofn y bydd ciwiau.

Dewch â'ch bag siopa eich hun. Byddwn ond yn derbyn taliadau cerdyn; bydd y digwyddiad hwn yn un diarian.

Mae'r prisiau'n amrywio o £1 i £200 

Cyfeiriad

Storfa Golygfeydd y Tŷ Opera Brenhinol 
Stad Ddiwydiannol Aberaman 
Aberdâr 
Morgannwg Ganol 
De Cymru
CF44 6DA

Mae parcio ar gael ar y stryd o amgylch y siopau. Allwn ni ddim gwarantu y byddwch chi’n dod o hyd i le. Nifer cyfyngedig o lefydd parcio hygyrch sydd ar gael ar y safle. Mae cerbydau llwytho ar gael ar y safle.

Pasiwch y gwahoddiad hwn at unrhyw un y credwch a allai fod â diddordeb hefyd.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.