Mae Mali Haf ac Efa Blosse-Mason wedi cynhyrchu myfyrdod unigryw ar gyfer yr adnodd lles creadigol ar-lein, Cwtsh Creadigol.

 

Mae’r gantores Gymraeg Mali Haf wedi ymuno â’r dylunydd Efa Blosse-Mason i gynhyrchu animeiddiad meddwlgarwch Cymraeg.

Mae ‘Myfyrdod’ yn mynd â gwylwyr ar siwrnai feddwlgarwch 10 munud. Caiff y sesiwn ei lleisio gan Mali, gydag animeiddiad lleddfol a grewyd gan Efa, gwneuthurwraig ffilm a dylunydd o Gaerdydd.

Mae’r animeiddiad ymhlith y cynnwys diweddaraf a gomisiynwyd ar gyfer Cwtsh Creadigol – adnodd lles creadigol rhad ac am ddim a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2021 i gefnogi staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru tra’n ymateb i’r pandemig COVID-19. Bellach, ceir dros 70 o brofiadau creadigol gan rai o artistiaid blaenllaw Cymru, sydd ar gael i bawb ar-alw, gyda chynnwys newydd yn cael ei ychwanegu’n rheolaidd.

Roedd sicrhau bod y gweithgaredd meddwlgarwch yn cael ei greu yn Gymraeg yn hollbwysig, eglurodd Mal.

“Mae'r byd yn dod yn fwy ymwybodol o iechyd meddwl, pa mor hanfodol ydyw a beth sy'n rhoi pwysau arno,” dywedodd. “Mae cymaint o adnoddau yn Saesneg, ond rydw i’n hoffi cael fy nhywys drwy fy myfyrdodau yn Gymraeg. Mae'n braf peidio â gorfod cyfieithu drwy’r amser a gallu uniaethu'n uniongyrchol â'r cynnwys”.

Mae’r Cwtsh Creadigol, sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o raglen barhaus o waith; partneriaeth ym maes y Celfyddydau ac Iechyd sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth o fanteision lles drwy gymryd rhan yn y celfyddydau.

Cynlluniwyd yr adnodd mewn ymgynghoriad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Gofal Cymdeithasol Cymru, Cydffederasiwn GIG Cymru, Cydlynwyr Celfyddydau ac Iechyd o fewn pob Bwrdd Iechyd yn ogystal â grwpiau ffocws o weithwyr gofal iechyd.

Dywedodd Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Lles gyda Chyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Myfyrdod yn berl o adnodd i wrando arno - balm i’r enaid ar gyfer misoedd y gaeaf a hafan o lonyddwch creadigol i adfer llesiant. “

“Gobeithio y bydd siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn mwyhau’r ychwanegiad diweddaraf hwn i’r Cwtsh Creadigol, ein hadnodd lles creadigol amrywiol, a gynlluniwyd i ddod â llawenydd, llonyddwch ac ysbrydoliaeth pan fyddwch ei angen fwyaf.”

“Mae’r Cwtsh Creadigol yn rhan o’n rhaglen ehangach o weithgareddau celfyddydol ac iechyd sy’n anelu at ehangu buddion iechyd a lles y celfyddydau i bobl ledled Cymru.”

Gellir dod o hyd i sesiynau meddwlgarwch Efa a Mali ar gyfer y Cwtsh Creadigol fan hyn – https://culturalcwtsh.wales/myfyrdod