Prif nod y rôl hon yw helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg trwy gyfrwng celf a dylunio. Nod y cyfnod preswyl yw cynnig cyfleoedd i artist/dylunydd dwyieithog i archwilio ei ymarfer ei hun a pharhau i ddatblygu fel artist. Bydd yr artist/dylunydd preswyl yn gorfod cynnig gweithdai a sgyrsiau i ddysgwyr a thimau yng Ngholeg Gwyr Abertawe.