Heddiw mae Tate Britain wedi cyhoeddi bod artist Cymru yn Fenis 2019, Sean Edwards, wedi derbyn Bwrsariaeth Turner o £10,000. Mae Sean yn un o 10 artist i dderbyn y fwrsariaeth newydd - sy'n arlwy wedi'i hailfodelu er mwyn ymateb i'r pandemig coronafirws, a'r cyfyngiadau sy'n deillio ohono.

Bwrsariaethau yn lle Gwobr Turner eleni

Mae Bwrsariaethau Turner 2020, sy'n disodli'r Wobr, yn cael eu cyflwyno i 10 artist o Brydain ar sail eu cyfraniad at ddatblygiadau newydd mewn celf gyfoes ar yr adeg hon.


Y naw artist arall i gael bwrsariaeth yw:

Political arts organisation Akira

Liz Johnson Artur

Oreet Ashery

Shawanda Corbett

Jamie Crewe

Alberta Whittle

Sidsel Meineche Hansen

Ima-Abasi Okon

Imran Perretta
 

'Undo Things Done'

Sean Edwards (ganed 1980) cynrychiolodd Cymru yn Fenis 2019 gydag arddangosfa unigol, Undo Things Done, a gyflwynir gan y curadur gwadd Marie Anne McQuay a’r sefydliad arweiniol, Tŷ Pawb. Chomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a dyma’r nawfed cyflwyniad yno gan Gymru.

Bu'r arddangosfa ar agor i'r cyhoedd yn Santa Maria Ausiliatrice, Castello, 11 Mai-24 Tachwedd 2019.

Darllenwch fwy am y prosiect Cymru yn Fenis yma.