Dyma ail flwyddyn Llais y Lle, cynllun sy’n cael ei redeg gan Cyngor Celfyddydau Cymru a’i ariannu gan Y Loteri Genedlaethol. Y nod yw datblygu defnydd creadigol o’r iaith gan ddarparu nawdd a chefnogaeth ymarferol.

Mae arian ar gael i unigolion neu i grwpiau sydd â phrofiad o weithio'n greadigol gyda chymunedau, gan ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddwl am gyflwyno prosiectau gwreiddiol sy’n rhoi lle canolog i’r iaith ac sydd yn hybu perchnogaeth leol ohoni.

Dywedodd Einir Sion, Ysgogydd Iaith  Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae’r gronfa ar gael i bobl sydd â syniadau blaengar a chreadigol i roi’r Gymraeg wrth galon prosiect yn eu cymuned. Rydym yn chwilio am syniadau fydd yn darganfod ffyrdd creadigol a rhagweithiol o weithredu ac sy’n gosod sail gadarn i ddatblygu i’r dyfodol.

“Does dim cyfyngiad ar y math o brosiect y gallwn ei gefnogi, dim ond eu bod yn rhoi pwyslais ar y Gymraeg gyda’r bwriad o greu ac ehangu perchnogaeth a defnydd o’r iaith mewn cymuned.”

Un o’r prosiectau dderbyniodd gefnogaeth Llais y Lle 2023 yw cynllun sy’n cael ei arwain gan Myfanwy Alexander yn ardal Maldwyn. Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda grwpiau gwahanol o bobl ifanc i’w hannog i feddwl am eu perthynas â’r Gymraeg drwy gyfrwng drama, ffilm a cherddoriaeth.

Wrth sôn am ei gwaith dywedodd Myfanwy: “Mae’r cynllun wedi rhoi rhyddid i mi weithio gyda phobl ifanc mewn ffyrdd newydd ac i roi cyfle iddyn nhw hefyd edrych yn fwy dwys ar eu perthynas gyda’r iaith a’r rôl mae’r Gymraeg yn chwarae yn eu bywydau. Rydw i wedi gweithio gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Caereinion a’r  Montogmeryshire Youth Theatre, mae wedi bod yn ddiddorol gweld ymateb y gwahanol gymunedau hyn i’r Gymraeg.

“Heb y cynllun ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosib, a’r gobaith yw fod Llais y Lle Maldwyn wedi dangos gwerth yr iaith i bobl ifanc yr ardal i’r hir dymor. Mi fyddwn i‘n annog unrhyw un sydd â syniad creadigol neu sy’n angerddol dros ddatblygiad y Gymraeg i wneud cais i gronfa eleni.”

Mae Cyngor y Celfyddydau yn awyddus i sicrhau bod cymunedau ym mhob rhan o’r wlad yn cael cyfle am nawdd. Er mwyn gweld gweithgaredd mewn ardaloedd newydd eleni felly, mae’r Cyngor am weld ceisiadau o ardaloedd Caerffili, Torfaen, gogledd Powys, Ynys Môn, Dinbych, Conwy, Sir Benfro, Abertawe a Blaenau Gwent, ond bydd ceisiadau o pob ardal yn cael eu hystyried.

I ddysgu mwy am y meini prawf ac i wneud cais ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae ceisiadau ar agor rhwng 5 o Chwefror 2024 a’r 1 o Fawrth 2024 – mae disgwyl i bob cynllun ddechrau ym mis Mai 2024.

Bydd modd dysgu mwy am gronfa Llais y Lle mewn digwyddiadau ar-lein ar y 6 ac 8  Chwefror. 

 

Ymuno â sesiwn 6pm Chwefror 6ed yma.

Ymuno â sesiwn 5pm Chwefror 8fed yma.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun cysylltwch ag Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg: einir.sion@celf.cymru