tactileBOSCH a Cadw sy’n cyflwyno, arddangosfa grŵp yn myfyrio ar dreftadaeth Gymreig a defodau cyfunol drwy lens gyfoes.
Mae Agora yn dod ag artistiaid o bob rhan o Gymru ynghyd y mae eu gwaith yn ymateb i themâu treftadaeth, defod a’r tir. Dull arloesol o wneud ac arddangos gwaith celf newydd sy’n dathlu traddodiad ac yn mynegi’n rymus botensial lleoedd.
Mae’r arddangosfa hon yn cymryd yr Agora [Y man ymgynnull] fel ysbrydoliaeth ar gyfer dulliau newydd o gyfnewid diwylliannol radical.
Gyda ffocws ar dreftadaeth Gymreig, llên gwerin, iaith a digonedd naturiol mae’r sioe hon wedi’i gwreiddio mewn cynaliadwyedd, amrywiaeth a’r awydd i feithrin ein cysylltiadau personol a diwylliannol â Chymru. Mae’r arddangosfa hon yn arddangos gwaith newydd gan amrywiaeth o artistiaid cyfoes yn ogystal â dogfennu gwaith cydweithredol diweddar a wnaed ar leoliad yn safleoedd treftadaeth Cadw.
Abi Hubbard, Beth Greenhalgh, Catrin Davies, Catrin Menai, Clare Parry Jones, Dan Johnson, Dominique Fester, Fern Thomas, Ffion Reynolds, Georgia Ruth, Gwenno, Jen Abell, John Abell, Katie Turnbull, Lewis Prosser, Manon Awst, Molly Harcombe, Pam Rose Cott, Peter Evans, Sarah Boulton, Sean Vicary, Teddy Hunter, Tess Wood.