Mae Theatr Iolo ar drywydd aelodau bwrdd anweithredol annibynnol, a chanddyn nhw awch am y celfyddydau, all ein helpu i gyflawni ein hamcanion strategol. Mae arnom angen pobol a chanddyn nhw wybodaeth arbenigol, egni ac uchelgais, sy’n fodlon rhoi o’u hamser a’u profiad ac sy’n rhannu ein hawch, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd.
Ac yntau’n un o gwmnïau theatr blant mwya’u parch gwledydd Prydain, mae Theatr Iolo yn creu theatr wreiddiol ers dros bymtheng mlynedd ar hugain ac wedi perfformio mewn ysgolion, ysgolion meithrin, neuaddau pentref, canolfannau cymuned a theatrau ledled Cymru, drwy hyd a lled gwledydd Prydain ac yng ngwledydd eraill y byd.
Mae ein tîm bychan ac ymroddedig ar drywydd unigolion sy’n gallu bod yn gefn i’n datblygiad personol a rhoi cyngor i ni fydd yn gwella’r cwmni fel cyfangorff. Yn gyfnewid am eich cyfraniad, rydym yn addo y cewch flas ar fod yn rhan o gorff sy’n gwneud ei orau glas i fod y cwmni theatr blant blaenllaw yng Nghymru a rhown gyfle i chi ehangu eich gorwelion a gwneud gwahaniaeth go iawn.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan bobol a chanddyn nhw’r medrau a’r profiad sy’n dilyn:
· Gwybodaeth drylwyr am sector(au) y theatr, celfyddydau a diwylliant.
· Profiad o weithio yn y gymuned, y trydydd sector neu gyda grwpiau neu glybiau perthynol
· Medrau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
· Medrau dadansoddi a gallu gweithio ar lefel strategol
At hyn, mae gennym ddiddordeb neilltuol yn y rheini a chanddyn nhw’r medrau arbenigol sy’n dilyn:
· Adnoddau Dynol a Rheoli Personél
· Marchnata a Chyfathrebu
· Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
· Sector Addysg
· Rheoli Busnes
Rydym yn ymroddedig i ymorol bod ein bwrdd ymddiriedolwyr yr un mor amrywiol â’n cymunedau a chan hynny rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion â nodweddion gwarchodedig. Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn clywed gan bobol Groenddu, Asiaid, pobol o leiafrifoedd ethnic a phobol anabl i ymorol ein bod yn cynrychioli cymunedau yng Nghymru yn well. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, yn Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain.